(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chorff llywodraethu ysgol yn trosi o fod yn gorff a gyfansoddwyd fel bwrdd gweithredol interim yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i fod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag adran 19(1) o Ddeddf Addysg 2002.

O leiaf chwe mis cyn i'r bwrdd gweithredol interim beidio â gweithredu rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau i sefydlu corff llywodraethu cysgodol (rheoliad 5). Cyfansoddir y corff llywodraethu cysgodol yn yr un modd â chorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn llawn o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, ac felly bydd ganddo'r un categorïau o lywodraethwyr a'r un nifer o lywodraethwyr ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion (rheoliadau 6 a 7).

Mae darpariaethau Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 sy'n ymwneud â chymwysterau llywodraethwyr, ymddiswyddiadau llywodraethwyr a symud llywodraethwyr o'u swyddi yn gymwys i lywodraethwyr cysgodol (rheoliad 8). Gwneir darpariaeth ar gyfer penodi cadeirydd, is-gadeirydd a chlerc (rheoliadau 9 a 10). Rhaid i gorff llywodraethu cysgodol gyflawni unrhyw swyddogaethau a gaiff eu dirprwyo iddo gan y bwrdd gweithredol interim (rheoliad 12). Rhaid i'r clerc fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu cysgodol a sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw ac yn cael eu llofnodi gan y cadeirydd. Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol (a nodir yn rheoliad 14(2)), rhaid trefnu bod y cofnodion hynny ar gael i bersonau sydd â buddiant. Ym mhob ffordd arall rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol benderfynu ei weithdrefn ei hun (rheoliad 11).

Pan fo'r aelodau gweithredol interim yn gadael eu swydd, ymdrinnir â'r corff llywodraethu cysgodol fel petai'n gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Ymdrinnir â'r llywodraethwyr cysgodol fel pe baent wedi bod yn llywodraethwyr corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn llawn o ddyddiad y penodiad neu'r etholiad, a rhaid trin y cadeirydd, is-gadeirydd a'r clerc fel pe baent wedi cael eu hethol neu eu penodi o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (rheoliad 15).