xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1630 (Cy.209)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

20 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mehefin 2012

Yn dod i rym

1 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011(3) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os yw'n gwrs rhan-amser.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”) yn rhagnodi'r cyrsiau cymhwysol a'r personau cymhwysol at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”). Mae cwrs yn gwrs cymhwysol at ddibenion adran 28 os yw wedi ei ragnodi at y diben hwnnw.

Nid oedd y diffiniad o “course” yn adran 41 o Ddeddf 2004, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, yn cynnwys cyrsiau rhan-amser. Diwygiwyd yr adran honno gan adran 77 o Ddeddf Addysg 2011 i gynnwys cyrsiau rhan-amser.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy eithrio cyrsiau rhan-amser rhag cael eu rhagnodi yn gyrsiau cymhwysol at ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004.

(1)

2004 p.8. Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2011/691 (Cy.103), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.