xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r seithfed Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“y Ddeddf”) sy'n dod â darpariaethau penodedig yn y Ddeddf i rym o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 19 Mehefin 2012 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau yn y Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru:
(i)adrannau 22 a 23 o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym);
(ii)adran 24;
(iii)adran 25 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym); a
(iv)adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas ag adrannau 17(6) a 23B o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac Atodlen 2 (yn rhannol) iddi.
Mae adran 22 o'r Ddeddf (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) yn diwygio adran 23B o Ddeddf 1989; mae'n mewnosod adran newydd (adran 23CA) yn Neddf 1989 ac yn mewnosod is-adrannau (1A) i (1E) yn adran 23E o'r Ddeddf honno. Mae'r diwygiadau'n estyn dyletswydd awdurdod lleol i benodi cynghorydd personol ac i adolygu'r cynllun llwybr yn gyson ar gyfer person ifanc sy'n gyn blentyn perthnasol (hynny yw, person sy'n gadael gofal ac sydd dros 18 oed) ac mewn cysylltiad â pherson o'r fath.
Mae adran 23 o'r Ddeddf (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant) yn diwygio adrannau 23D(1) a 24B o Ddeddf 1989. Effaith y diwygiadau hyn yw, yn y lle cyntaf, estyn terfyn uchaf yr ystod oedran y mae adran 23D(1) yn gymwys iddo fel y bydd y rheoliadau a wneir o dan yr adran honno yn gallu ei gwneud yn ofynnol penodi cynghorydd personol ar gyfer pobl ifanc gymwys sydd o dan 25 oed; yn ail, estyn terfyn uchaf yr ystod oedran, y mae pwerau awdurdod lleol yn adran 24B o Ddeddf 1989 (darparu cymorth mewn cysylltiad â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant) yn gymwys iddo, i 25 oed.
Mae adran 24 yn diwygio adran 17(6) o Ddeddf 1989. Mae'n estyn pŵer awdurdod lleol i wneud taliadau arian parod i blant mewn angen a'u teuluoedd (drwy ddileu'r geiriau “in exceptional circumstances” o adran 17(6)).
Mae adran 25 yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989. Mae hyn yn ychwanegu'r ddarpariaeth o seibiannau byr i'r rhai sy'n gofalu am blant anabl, a gwasanaethau i helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad â phlant sy'n cael llety o dan ddeddfwriaeth iechyd neu addysg, at yr ystod o wasanaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu darparu ar gyfer plentyn anabl a'i deulu. Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn y paragraff 6 diwygiedig yn Atodlen 2 i'w chyflawni yn unol â'r rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Mae'r diddymiadau sy'n cael eu cychwyn yn unol ag erthygl 2(e) yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1989 drwy gychwyn y darpariaethau yn y Ddeddf y cyfeirir atynt yn erthyglau 2(a) i (d).
Mae erthygl 3 yn darparu nad yw adran 23CA(1) o Ddeddf 1989 (cymorth pellach i ganlyn addysg neu hyfforddiant) (a fewnosodir drwy gychwyn adran 22 o'r Ddeddf yn llawn) yn cael effaith ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn yr is-adran honno os yw'n hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol ar neu ar ôl 19 Mehefin 2012 ei fod yn canlyn rhaglen o addysg neu hyfforddiant neu'n dymuno canlyn rhaglen o'r fath.