(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, mewn cyferbyniad รข gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn