xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion.

Mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3), yn unol â'r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

Mae'r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion; dirymir yr offerynnau blaenorol hynny (rheoliad 7). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffioedd.

Mae lefelau'r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn rhan o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy'n adennill y gost lawn. Cynyddir y rhan fwyaf o'r ffioedd yn sylweddol: pennir cynnydd o 229% mewn ffioedd arolygu mewnforio, 52% yn y ffioedd mewn perthynas â thatws hadyd, 160% mewn ffioedd trwyddedu, 184% yn y ffioedd am arolygu tatws sy'n tarddu o'r Aifft, a 55% yn y ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion. Darperir manylion pellach yn y Memorandwm Esboniadol.

Paratowyd asesiadau rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, mewn perthynas â phob un o'r pum math o ffioedd y mae'r offeryn hwn yn ymwneud â hwy, ac maent ar gael gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.