xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r eiddo a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ar 1 Mehefin 2012 (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo), oddi wrth Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (yr Ymddiriedolaeth).
Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r eiddo a restrir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, ar 1 Mehefin 2012 (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw), oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, i'r Ymddiriedolaeth.
Mae erthygl 4 yn darparu bod rhaid i'r Ymddiriedolaeth lynu wrth delerau unrhyw lesoedd a drosglwyddwyd i'r Ymddiriedolaeth gan erthyglau 2 a 3.