At ddibenion Rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”), mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol sy'n cael eu rhoi ar gael mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun i'w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn yr ardal awdurdod lleol honno.
Effaith erthygl 3 yw'r canlynol: nid yw'r gofynion sy'n ymwneud â chydgysylltu a chynllunio gofal a thriniaeth a ddarperir gan Ran 2 o'r Mesur yn gymwys i unigolyn nad yw ond yn derbyn y gwasanaethau neu driniaeth sy'n cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn yr ardal awdurdod lleol lle y mae preswylfa arferol yr unigolyn hwnnw. Hefyd, ni fydd unigolyn nad yw ond wedi derbyn gwasanaethau o'r fath yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion penodol yn Rhan 3 o'r Mesur.
Effaith erthygl 4 yw galluogi oedolion sydd wedi derbyn y gwasanaethau hynny yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, ond sydd bellach yn preswylio yng Nghymru, i fod yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer yr hawl a ddarperir yn adran 22 o'r Mesur.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.