Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2012.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
(a)
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; a
(b)
ystyr “minc” (“mink”) yw'r anifail o'r rhywogaeth mustela vison.
Gwahardd cadw mincod3.
(1)
Mae cadw mincod wedi ei wahardd.
(2)
Wrth gymhwyso'r Ddeddf mewn perthynas â mincod, mae'r canlynol i'w hepgor—
(a)
adran 5(2), a
(b)
adran 6(1), paragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb mewn achos o drosedd o dan baragraff (f).
Mae'r Gorchymyn hwn, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 (“y Ddeddf”), yn gwahardd cadw mincod yng Nghymru.
Mae adran 10 o'r Ddeddf yn darparu, mewn perthynas â Gorchymyn a wneir yn unol â'r adran honno, fod darpariaethau'r Ddeddf yn gymwys fel y maent yn gymwys i fwsglygod, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau hynny a bennir yn y Gorchymyn. Yn y Gorchymyn hwn, gwneir eithriadau mewn perthynas ag adrannau 5(2) a 6(1)(f) o'r Ddeddf. Mae adran 5(2) o'r Ddeddf yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar feddianwyr tir i roi hysbysiad am bresenoldeb mincod, nad ydynt yn cael eu cadw o dan drwydded, ar eu tir. Mae adran 6(1)(f) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer trosedd pan fo meddiannydd tir yn methu â rhoi hysbysiad o'r fath o dan adran 5(2).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes na'r sector gwirfoddol.