(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy'n ymwneud â swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg o hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Adrannau 4, 11, 144(1) a 144(3)(a) yw'r darpariaethau perthnasol.

Mae adran 4 y Mesur yn rhoi'r pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef er mwyn hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae adran 11 yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.

Mae adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn darparu ar gyfer diddymu swyddogaethau a fu gynt yn cael eu harfer gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhoddodd adran 3 Deddf 1993 swyddogaethau ynghylch hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg i'r Bwrdd. Yn ogystal, dan adran 3, rhoddwyd y pŵer i'r Bwrdd wneud unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â pherfformio'i swyddogaethau neu'n ffafriol o ran eu perfformio. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i'r Comisiynydd a Gweinidogion Cymru pan gafodd y Bwrdd ei ddiddymu. O ganlyniad i gychwyn adrannau 4 a 11 y Mesur, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn rhannol, at ddibenion diddymu'r swyddogaethau a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf 1993.