(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod carfan newydd o fyfyrwyr a math newydd o gwrs yn y Prif Reoliadau. Myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yw myfyriwr a ddechreuodd ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Cwrs mynediad graddedig carlam yw cwrs ar gyfer myfyrwyr mynediad graddedig sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd, ac nad yw'n parhau'n hwy na 4 blynedd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 a myfyrwyr eraill y telir y bwrsari gofal iechyd cyffredinol iddynt yn fyfyrwyr cymwys at ddibenion y Prif Reoliadau. Y bwrsari gofal iechyd cyffredinol yw dyfarniad o £1,000, a delir i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau mewn cysylltiad â gofal iechyd ar ôl 1 Medi 2012.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio rheoliadau 6 a 7 o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliadau 6 a 7 o'r Prif Reoliadau yn ymwneud â chyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ac astudio blaenorol at ddibenion y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau nad yw astudio israddedig blaenorol gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn cyfrif at y diben o gyfrifo'i gyfnod cymhwystra, ac nad yw'n ei rwystro rhag cael mynediad at gymorth cyfyngedig o dan y Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 10 o'r Prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn â'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gymorth o dan y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y terfyn amser mewn perthynas â myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n gwneud cais am fenthyciad at ffioedd ar wahân, neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan y Prif Reoliadau.
Mae rheoliadau 8 i 12 yn diwygio Rhan 4 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â darparu cymorth at ffioedd i fyfyrwyr cymwys amser-llawn. Mae rheoliadau 8 i 11 yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau sy'n rhwystro'r myfyrwyr hynny sy'n astudio mewn sefydliadau preifat a myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 rhag cael mynediad at rai mathau o gymorth at ffioedd o dan y Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliadau 24A a 24B newydd yn y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 24A yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat i fyfyrwyr cymwys sy'n dechrau ar gyrsiau mewn sefydliadau preifat ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae rheoliad 24B yn darparu ar gyfer talu benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012.
Mae rheoliadau 13 i 15 yn diwygio Rhannau 5 a 6 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â darparu grantiau a benthyciadau at gostau byw i fyfyrwyr cymwys amser-llawn. Mae rheoliad 13 yn sicrhau bod rhai grantiau cyfyngedig at gostau byw ar gael i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio. Mae rheoliadau 14 a 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y benthyciadau at gostau byw ar gael i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012. Mae'r diwygiadau yn darparu hawlogaeth lawn i fenthyciad o'r fath i'r myfyrwyr hyn yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Mae rheoliadau 16 a 17 yn diwygio Rhan 10 o'r Prif Reoliadau ac yn gwneud darpariaeth newydd ynglŷn â thalu grantiau a benthyciadau ar gyfer ffioedd.
Mae rheoliad 18 yn diwygio rheoliad 86 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â thalu grantiau ar gyfer ffioedd mewn perthynas â myfyrwyr dysgu o bell cymwys.
Mae rheoliad 19 yn gwneud mân ddiwygiad yn nhestun Saesneg y Prif Reoliadau.