Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio)(Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1) (“Gorchymyn 1995”). Mae erthygl 3 ac Atodlen 2 i Orchymyn 1995 yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir o ran datblygu penodol. Pan fo'r hawliau hynny yn gymwys i'r datblygu, nid oes angen unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio.

Mae erthygl 2(3) o'r Gorchymyn hwn yn rhoi Rhan 40 newydd, yn lle'r un sydd eisoes yno, yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Mae'r Rhan 40 newydd yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gosod mathau penodedig o gyfarpar microgynhyrchu ar dai annedd neu fflatiau neu o fewn cwrtil tai annedd neu fflatiau, yn ddarostyngedig i feini prawf penodol. Mae'n diwygio Dosbarth A o Ran 40 i gyflwyno hawliau datblygu a ganiateir i osod paneli solar ffotofoltaig neu gyfarpar solar thermol ar doi gwastad. Mae'n cyflwyno tri dosbarth newydd ar hawliau datblygu a ganiateir i osod pwmp gwres ffynhonnell aer (Dosbarth G), tyrbin gwynt annibynnol (Dosbarth H) a mast mesur y gwynt (Dosbarth I). Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau gan Uned Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn hwn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC(2) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC(3).

(1)

O.S. 1995/418. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2009/2193 (Cy.185).

(2)

OJ L204/37 cyfrol 41 21 Gorffennaf 1998.

(3)

OJ L217/18 cyfrol 41 5 Awst 1998.