xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1346 (Cy.167)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio)(Cymru) 2012

Gwnaed

19 Mai 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mai 2012

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 60, 61 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

(1)

1990 p.8; y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60 a 61 a 333(7) i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672): gweler y cofnod yn Atodlen 1 yn cyfeirio at Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) fel y'i rhoddwyd yn lle'r hen un gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000, ac Atodlen 3 iddo, (O.S. 2000/253). Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Roedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y'u diffinir ym mharagraff 30(2).