Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrff o'r fath naill ai:

(a)yn brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff a awdurdodwyd drwy Siarter Frenhinol neu drwy Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu

(b)yn gyrff sy'n cael caniatâd am y tro gan unrhyw gorff sy'n cwympo o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.

Mae'r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff sydd wedi eu cynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 ('Gorchymyn 2007') a ddiwygiwyd gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n cael eu Cydnabod) (Cymru) (Diwygio) 2009 ('Gorchymyn 2009'). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2007 a Gorchymyn 2009. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o'r Gorchymyn gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi uno â chyrff eraill. Mae nifer o gyrff newydd wedi eu mewnosod gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hynny bellach yn cwympo o fewn naill ai (a) neu (b) uchod. Mae nifer o fân ddiwygiadau wedi eu gwneud hefyd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers diwygio Gorchymyn 2007.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.