Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru enw pob corff nad yw'n gorff sy'n cael ei gydnabod o fewn adran 216(4) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ond sy'n gorff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod naill ai—

(a)yn darparu cwrs sydd yn baratoad at ddyfarnu gradd gan gorff cydnabyddedig o'r fath ac a gymeradwyir gan y corff cydnabyddedig hwnnw neu ar ei ran; neu

(b)yn goleg cyfansoddol, yn ysgol, yn neuadd neu'n sefydliad arall sy'n rhan o brifysgol sy'n gorff cydnabyddedig.

Ystyr 'cyrff cydnabyddedig' yw prifysgolion, colegau neu gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau, a chyrff eraill y mae'r cyrff hynny'n caniatáu iddynt am y tro weithredu ar eu rhan wrth ddyfarnu graddau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff sydd wedi eu cynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2007, a ddiwygiwyd gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2009. Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu'r ddau Orchymyn hynny. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o'r rhestr gan nad ydynt bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan gorff cydnabyddedig neu ar ei ran. Mae'r rhestr yn cynnwys cyrff nad oeddynt wedi eu rhestru mewn Gorchmynion blaenorol, ond sydd bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan gorff cydnabyddedig neu ar ei ran. Cafodd nifer o fân ddiwygiadau hefyd eu gwneud i'r rhestr i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers diwygio Gorchymyn 2007.