Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu trosiant person cydnabyddedig (“recognised person”) at ddibenion adran 32AB o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”).

Mae adran 32AA o Ddeddf 1997 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru osod cosb ariannol ar berson cydnabyddedig (fel y diffinnir “recognised person” yn adran 32A(5) o Ddeddf 1997), os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio ag un o amodau ei gydnabyddiaeth o dan adran 32(3A) a (4) o Ddeddf 1997. Caiff swm y gosb ariannol fod yr hyn a benderfynir sy'n briodol gan Weinidogion Cymru, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ond ni chaiff y gosb ariannol fod yn fwy na 10% o drosiant y person cydnabyddedig, fel y'i penderfynir gan y Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.