(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer darpariaeth ranbarthol at ddibenion Rhannau 1 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
2. Mae Rhannau 1 a 3 o'r Mesur yn cael eu datgymhwyso o ran ardaloedd yr holl awdurdodau lleol sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(1) a 4(1)).
3. Wedyn mae Rhannau 1 a 3 o'r Mesur ac i'r graddau y mae angen hynny, mae Rhannau 5 a 6 o'r Mesur yn cael eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol sydd wedi eu grwpio gyda'i gilydd yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn. Yr enw ar ardaloedd cyfun y grwpiau hyn o awdurdodau lleol yw “rhanbarthau” (rheoliadau 3(2) a 4(2)).
4. Mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(3) a 4(3)).
5. Mae eithriad yn cael ei wneud i'r modd y mae Rhan 1 o'r Mesur yn cael ei datgymhwyso a'i chymhwyso at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8. Mae'r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, ac eithrio i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â chynllun ar gyfer rhanbarth (fel y cyfeirir ato yn adran 2(4) a (5) o'r Mesur) yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5) (rheoliad 3(4)).
6. Mae eithriad yn cael ei wneud i'r modd y mae Rhan 3 o'r Mesur yn cael ei datgymhwyso a'i chymhwyso at ddibenion adrannau 19, 22 a 29. Mae'r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 19, 22 a 29 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â hawl oedolyn i gael asesiad, neu â phenderfynu man preswylio arferol oedolyn yn ôl ardaloedd yr awdurdodau lleol er mwyn sefydlu hawl yr oedolyn hwnnw i gael asesiad (rheoliad 4(4)).
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.