Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012
2012 Rhif 1238 (Cy.151)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
DŴR, CYMRU

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym-
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: