(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn i'w wneud o dan y Mesur.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2012 ddarpariaethau o'r Mesur a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod;

Adrannau 5 i 7 (cefnogi aelodaeth);

Mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol gan eu haelodau a chan aelodau eu gweithrediaethau am eu gweithgareddau.

Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru am amseru cyfarfodydd awdurdod lleol.

Mae adran 7 yn rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd datblygu rhesymol yn cael eu darparu i'w haelodau.

Adrannau 8 i 22 (gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol a dehongli);

Mae'r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol ddynodi un o swyddogion yr awdurdod i fod yn bennaeth gwasanaethau democrataidd (swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol) ac maent hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r swyddog hwnnw. Yn ychwanegol, mae'r adrannau hyn yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i benodi pwyllgor o'r cyngor i oruchwylio gwaith gwasanaethau democrataidd.

Mae'r adrannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer llywodraethu pwyllgor gwasanaethau democrataidd, ar gyfer ei adroddiadau ac ar gyfer ei drafodion.

Mae Gweinidogion Cymru yn cael pŵer gan adran 10 i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fabwysiadu rheolau sefydlog am reoli staff sy'n adrodd wrth bennaeth gwasanaethau democrataidd.

Adrannau 23 i 33 (absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol);

Mae'r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth i aelodau awdurdodau lleol gael yr hawl i gymryd absenoldeb mamolaeth, newydd-anedig, mabwysiadu a rhiant yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy'n rhagnodi'r amodau ar yr hawl i'r cyfnod perthnasol o absenoldeb.

Adrannau 56 a 57 (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr);

Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth i alluogi aelod o awdurdod lleol sy'n cynrychioli'r weithrediaeth neu'r awdurdod ar gorff allanol i wneud penderfyniadau mewn perthynas â swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

Mae adran 57 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth newydd yn adran 56.

Adran 61 (personau dynodedig);

Mae adran 61 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi drwy orchymyn y personau hynny neu'r categorïau o bersonau (“person dynodedig”) y caniateir craffu ar eu cyfrifoldebau neu eu swyddogaethau gan bwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol.

Adran 62 (rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd);

Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i alluogi'r cyhoedd i fynegi eu safbwyntiau mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.

Adrannau 63 i 65 (pwerau cynghorwyr);

Mae'r adrannau hyn yn diwygio adran 21A o Ddeddf 2000 i alluogi cynghorydd prif gyngor yng Nghymru i gyfeirio mater i bwyllgor trosolwg a chraffu os yw'r mater hwnnw yn ymwneud â chyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r cyngor neu sy'n effeithio ar y cyfan neu ran o'r ardal etholiadol y mae'r cynghorydd yn ei chynrychioli ac maent hefyd yn gwneud darpariaeth am adroddiadau pwyllgor trosolwg a chraffu.

Adrannau 66 i 75 (penodi personau i gadeirio pwyllgorau);

Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud darpariaeth yn ei reolau sefydlog i benodi cadeiryddion i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod a hefyd i wahardd rheolaeth gan blaid o'r pwyllgorau hynny. At hynny, mae'r adrannau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am y weithdrefn benodi i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau craffu ac i ddyroddi canllawiau neu gyfarwyddiadau.

Adran 78 (gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid);

Mae'r adran hon yn gosod cyfyngiad ar reolaeth gan blaid ar bwyllgor trosolwg a chraffu.

Adrannau 81 i 87 (pwyllgorau archwilio);

Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi pwyllgor archwilio i adolygu a chraffu ar faterion ariannol yr awdurdod a swyddogaethau eraill a nodir yn adran 81, gan gynnwys gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â hwy.

Adrannau 88 i 99 (cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol);

Mae'r adrannau hyn yn adolygu'r trefniadau a nodir yn Neddf 1972 i alw a threfnu cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol yng Nghymru.

Adrannau 142 — 143, 145, 148—152, 154, 155(2), (3) a (4) — 157 (Aelodau — Taliadau a Phensiynau (Rhan 8 o'r Mesur));

Cychwynnwyd yr adrannau hyn yn rhannol gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 (2011 Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)) gan gymryd effaith o 31 Awst 2011 ymlaen mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Panel ynghylch yr adroddiad blynyddol cyntaf o dan adran 146 o'r Mesur.

Mae Rhan 8 o'r Mesur (adrannau 141 i 160) yn darparu ar gyfer taliadau a phensiynau i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol (“awdurdodau perthnasol”). Caiff Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) benderfynu'r taliadau y caniateir eu gwneud mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol ac wrth wneud hynny, mae i nodi ei benderfyniadau mewn adroddiad blynyddol.

Adran 147 (adroddiadau blynyddol dilynol);

Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gyhoeddi adroddiadau blynyddol dilynol ynghylch arfer ei swyddogaethau am bob blwyddyn ariannol sydd ar ddod ar ôl y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Adran 153 (cydymffurfio â gofynion y Panel);

Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer cydymffurfiaeth â gofynion y Panel mewn perthynas â thaliadau gan awdurdodau perthnasol.

Adran 155(1) (peidio â gwneud taliadau);

Mae'r adran hon yn gwahardd awdurdod perthnasol rhag gwneud taliadau i aelod sydd wedi cael ei atal neu ei atal yn rhannol o ganlyniad i gamymddygiad.

Adran 160 (diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 3 (taliadau a phensiynau; mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

Mae'r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 sy'n nodi mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â thaliadau aelodau a phensiynau o dan Ran 8 o'r Mesur.

Adran 176(1) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau);

Mae'r adran hon yn mewnosod is-adrannau newydd (5) i (7) i adran 106 o Ddeddf 2000.

Adran 176(2) a Rhannau A, D ac F o Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau);

Mae erthygl 3 yn arbed darpariaethau penodol yn Rhan F o Atodlen 4 i'r Mesur (aelodau — taliadau a phensiynau (Rhan 8 o'r Mesur)) er mwyn i'r Rheoliadau a restrir yn y Rhan honno o'r Atodlen barhau i gael effaith at ddibenion penodol, er i'r Rheoliadau hynny gael eu dirymu ar 30 Ebrill 2012. Mae'r diben y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith ato yn ymwneud â hawliadau am lwfansau neu daliadau eraill o dan y Rheoliadau hyn cyn 1 Ebrill 2012.

Gweler hefyd adran 178(1) (cychwyn) o'r Mesur ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 11 Mai 2011 (drannoeth y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor) ac adran 178(2) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2011 (diwedd y cyfnod o 2 fis a ddechreuodd ar y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor).