xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu tri therm newydd at restr y termau a ddiffinnir yn y Prif Reoliadau. Mae'r term “cwrs dysgu o bell” yn cyfeirio at gwrs dysgu o bell amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae “carcharor cymwys” yn garcharor sy'n bodloni gofynion cymhwystra penodol a nodir yn y diffiniad, gan gynnwys cael ei awdurdodi i astudio cwrs addysg uwch sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae'r term “carcharor” yn cyfeirio at berson sy'n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy'n cael ei gadw'n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mai dim ond carcharorion sy'n garcharorion cymwys fydd yn gallu cael cymorth ariannol o dan y Prif Reoliadau mewn perthynas â chyrsiau addysg uwch sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5 o'r Prif Reoliadau drwy ychwanegu at y meini prawf ar gyfer dynodi cyrsiau o dan y Prif Reoliadau. Ni fydd y diwygiad hwn yn gymwys ond i ddynodi cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â chyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys o dan y Prif Reoliadau. Effaith y diwygiad hwn yn achos myfyriwr sydd wedi methu â chwblhau cwrs blaenorol am resymau personol anorchfygol, yw caniatáu, mewn rhai amgylchiadau, i flwyddyn ychwanegol gael ei hychwanegu at ei gyfnod cymhwystra o dan y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 13 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn cadarnhau na chaniateir i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl 1 Medi 2012 gael cymorth at ffioedd o dan y Prif Reoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 25 o'r Prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth am y grantiau sydd ar gael at gostau byw o dan y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn darparu na fydd grant at gostau byw myfyrwyr anabl ar gael ond i garcharorion a ddechreuodd gyrsiau addysg uwch cyn 1 Medi 2012. Mae hefyd yn darparu na fydd hawlogaeth gan fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl y dyddiad hwn i gael unrhyw grant at gostau byw o dan y Prif Reoliadau ac eithrio grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas â chyrsiau amser-llawn. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y grantiau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 46 o'r Prif Reoliadau i gadarnhau nad oes benthyciadau at gostau byw o dan y Prif Reoliadau ar gael mewn perthynas â chyrsiau dysgu o bell amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 74 o'r Prif Reoliadau i gadarnhau na chaniateir i gyrsiau dysgu o bell amser-llawn, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, fod yn gyrsiau dysgu o bell dynodedig o dan y Prif Reoliadau oni bai eu bod wedi dechrau cyn 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 89 o'r Prif Reoliadau er mwyn caniatáu i fyfyrwyr rhan-amser fod â hawl i gael cymorth ariannol o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 105 o'r Prif Reoliadau drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser.

Mae rheoliad 14 yn mewnosod darpariaeth ychwanegol yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Mae Atodlen 1 yn nodi'r categorïau amrywiol o fyfyrwyr cymwys at ddibenion y Prif Reoliadau.