xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 15(6) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur mewn blwyddyn ariannol.

Mae adran 15(7) o'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl (a) dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n rhaid i'r cynllun ymwneud â hi neu (b) unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad hwnnw ar gyfer yr awdurdodau tân ac achub, sef un categori o awdurdod gwella Cymreig. Effaith erthygl 2 yw darparu bod yn rhaid i awdurdod tân ac achub gyhoeddi'r wybodaeth sy'n ofynnol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mai 2012 a'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae 31 Rhagfyr yn ddyddiad perthnasol iddi yw'r flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.