(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei chael wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd, a darpariaethau sy'n ymwneud ag ymgynghori â Phanel Cynghori'r Comisiynydd. Mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn diffiniad o ystyr “hysbysiad cydymffurfio” at ddibenion y rhannau hynny o'r Mesur sy'n ymdrin â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg.