2011 Rhif 994 (Cy.147)
HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed
gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) ac 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, ac a freinir bellach ynddynt hwy1, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A of Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.

Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y cyfryw fuddiannau sy'n ymddangos iddynt yn berthnasol.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli'r cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb a bennir yn rheoliad 3 fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.