2011 Rhif 991 (Cy.145)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at y dibenion o wneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.