Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 (O.S. 2009/1385 (Cy.141) drwy symud ymaith y gofyniad ar gyfarwyddwyr anweithredol i gynnwys person sydd yn swyddog o undeb llafur neu gorff cynrychioliadol arall o gyflogeion sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae yna hefyd fân ddiwygiadau i reoliad 1(2) (dehongli), paragraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi'r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), a pharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth).