(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym —
adran 144 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (“y Ddeddf”) sy'n darparu ar gyfer mewnosod paragraffau 7A a 7B newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'r paragraffau newydd hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pwyso a mesur plant yng Nghymru;
is-adran (8) o adran 146 o'r Ddeddf, sy'n mewnosod is-adran (4A) yn adran 64 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (“Deddf 2001”). Mae'r is-adran newydd hon yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 57 o Ddeddf 2001.
Mae hefyd yn dwyn i rym o ran Cymru—
is-adrannau (1) i (7) o adran 146 o'r Ddeddf i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym. Mae'r is-adrannau hyn yn gwneud darpariaeth sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal.