xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENDiwygiadau i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

RHAN 1

Diwygiadau

1.  Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn lle rheoliad 2, rhodder—

Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff

2.(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff;

(b)ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—

(i)sy'n wastraff o fewn ystyr Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Wastraff; ac

(ii)yn ddarostyngedig i reoliad 15, nad yw wedi ei wahardd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3).

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a bennir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno, sef sicrhau yr ymgymerir â rheoli gwastraff heb beryglu iechyd dynol, heb niweidio'r amgylchedd ac, yn benodol—

(a)heb risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid;

(b)heb achosi niwsans oherwydd sŵn neu aroglau; ac

(c)heb gael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig..

3.  Yn lle rheoliad 3, rhodder—

Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff

3.  Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

(a)at Atodiad III yn gyfeiriad at Atodiad III (priodoleddau gwastraff sy'n ei wneud yn beryglus) i'r Gyfarwyddeb Wastraff, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3;

(b)at briodoleddau peryglus yn gyfeiriad at y priodoleddau yn Atodiad III..

4.  Yn rheoliad 4(1), yn y diffiniad o “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”), hepgorer o “, sef y rhestr” hyd at y diwedd.

5.  Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—

(ii)mewnosoder yn y man priodol—

(iii)yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—

(iv)hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.;

(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.

6.  Yn rheoliad 8(1), yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”.

7.  Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”;

(ii)hepgorer “i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus”;

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Nid yw'r pŵer a geir ym mharagraff (1) i benderfynu y caiff gwastraff ei drin fel gwastraff nad yw'n beryglus yn gymwys i wastraff a gafodd ei wanhau neu ei gymysgu gyda'r bwriad o leihau'r crynodiadau cychwynnol o sylweddau peryglus i lefel sy'n is na'r trothwyon ar gyfer diffinio gwastraff yn wastraff peryglus..

8.  Yn rheoliad 18—

(a)ar ôl y geiriau “wedi'i”, mewnosoder “wanhau neu wedi'i”;

(b)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)yn achos gwastraff peryglus sy'n wastraff olew, gwastraff olew o wahanol nodweddion;.

9.  Yn rheoliad 19—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)”, rhodder “(2), (3) a (4)”;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig” a “neu'r esemptiad hwnnw”;

(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Mae paragraff (1) yn gymwys ar gyfer cymysgu olew gwastraff—

(a)dim ond i'r graddau y mae'r gwaharddiad yn paragraff hwnnw yn ymarferol dechnegol ac yn ddichonadwy'n economaidd; a

(b)dim ond pan fyddai cymysgu o'r fath yn rhwystro trin yr olew gwastraff..

10.  Yn rheoliad 20(1)(a), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig”.

11.  Yn rheoliad 35—

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “(3)” rhodder “(2)”;

(b)hepgorer paragraffau (1)(c) a (4);

(c)ym mharagraff (5)—

(i)yn lle “nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “nodyn traddodi neu atodlen o gludwyr”,

(ii)yn lle “Atodlen 4, 5 neu 6”, rhodder “Atodlen 4 neu 5”;

(ch)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Hyd at ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 eu gwneud—

(a)caiff cludwr ddewis defnyddio'r weithdrefn amlgasgliad a oedd yn gymwys yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym; a

(b)caniateir defnyddio'r ffurflenni a osodir yn y Rheoliadau hyn fel a ddeddfwyd yn wreiddiol, neu ffurflenni sy'n gofyn am yr un wybodaeth sydd yn sylweddol yn yr un fformat, yn hytrach na'r rhai a amnewidir gan Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011..

12.  Yn rheoliad 36(1), yn lle “38” rhodder “39”.

13.  Hepgorer rheoliad 38.

14.  Yn rheoliad 42—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 43 a 44” rhodder “rheoliad 43”;

(b)ym mharagraff (2), hepgorer “38(6)(b) ac (c),”.

15.  Yn rheoliad 43(1), hepgorer “ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 44 yn gymwys iddo”.

16.  Hepgorer rheoliad 44.

17.  Yn rheoliad 47—

(a)ar ôl paragraff (5)(b), hepgorer “ac”;

(b)ym mharagraff (5)(c), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;

(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(5A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—

(a)am 5 mlynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu

(b)os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi, hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(5B) Ym mharagraff (5A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2)..

18.  Yn rheoliad 48—

(a)ym mharagraff (3)(c), yn lle “Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff”, rhodder “Atodiad I neu II o'r Gyfarwyddeb Wastraff (yn ôl y digwydd)”;

(b)ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a”;

(c)ym mharagraff (6)(b), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (6A),”;

(ch)ar ôl paragraff (6), mewnosoder—

(6A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—

(a)am 5 mlynedd ar ôl gwaredu neu adfer y gwastraff; neu

(b)os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi (yn ogystal a thriniaeth arall), hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(6B) Ym mharagraff (6A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2)..

19.  Yn rheoliad 49—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “traddodwr gwastraff peryglus”, rhodder “traddodwr, neu frocer neu ddeliwr mewn, gwastraff peryglus”;

(b)yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan baragraff (1) ei gadw—

(a)tra bo'r person yn ddeiliad y gwastraff neu (os nad yw'n ddeiliad) tra bo ganddo reolaeth o'r gwastraff; a

(b)am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y trosglwyddir y gwastraff i berson arall.;

(c)ym mharagraff (4)—

(i) ar ôl “deiliad”, mewnosoder “, deliwr, brocer”;

(ii)ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”;

(ch)ym mharagraff (5)—

(i)ar ôl y tro cyntaf mae “deiliad” yn ymddangos, mewnosoder “, deliwr, brocer”,

(ii)yn is-baragraff (b), o flaen “draddodwr”, mewnosoder “ddeliwr, brocer neu”.

20.  Yn rheoliad 50(3), ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”.

21.  Yn rheoliad 51(2)(a)—

(a)hepgorer “nodiadau amldraddodi a phan” ac yn ei le rhodder “, pan”;

(b)hepgorer “neu 44”.

22.  Yn rheoliadau 52(1) a 55(3), yn lle “Atodiad IIA neu Atodiad IIB”, rhodder “Atodiad I neu Atodiad II”.

23.  Hepgorer rheoliad 57.

24.  Yn rheoliad 60—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 5”, rhodder “Erthygl 16”;

(b)hepgorer paragraff (2).

25.  Yn rheoliad 65(c), yn lle “44” rhodder “43”.

26.  Yn y tabl yn rheoliad 65A(1), hepgorer y rhes sy'n dechrau “rheoliad 44”.

27.  Yn rheoliad 69(1)(d), yn lle “44” rhodder “43”.

28.  Hepgorer Atodlenni 1, 2 a 6.

29.  Yn lle Atodlen 3, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 2.

30.  Yn lle Atodlen 4, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 3.

31.  Ym mharagraff 4(3)(a) o Atodlen 7, yn lle “43 neu 44” rhodder “36 neu 43”.

32.  Ym mharagraff 1 o Atodlen 7, yn lle “pharagraff 7” rhodder “pharagraff 6”.

33.  Ym mharagraff 6 o Atodlen 7—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 38(1)”, rhodder “y diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”) yn rheoliad 5(1)”;

(b)ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau ar ôl “y Rheoliadau hyn”;

(c)hepgorer paragraff (3).

34.  Yn Atodlen 11, hepgorer paragraffau 5 i 8 a 11 i 25.