(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 a 14 Chwefror 2011 amrywiol ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 23 yn mewnosod yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) adran 33B sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r ffaith eu bod ar gael.

  • Mae adran 25 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33D sy'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol bennu ysgol neu sefydliad perthnasol i'r disgybl os gofynnir iddo wneud hynny.

  • Mae adran 26 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33E sy'n rhoi i ddisgybl cofrestredig ysgol a gynhelir yr hawl i ddewis dilyn cwrs astudio neu gyrsiau astudio a gynhwysir mewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 28 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33G sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio penodol neu gyrsiau astudio penodol.

  • Mae adran 30 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33I sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr mwyach yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.

  • Mae adran 31 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33J. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg bellach gynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio'r cwricwla lleol.

  • Mae adran 32 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33K sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 33 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33L sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â goblygiadau cydweithio a orfodir gan adran 33K o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 34 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33M. Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 33A(3) o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 35 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33N. Mae'r adran hon yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 36 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33O ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.

  • Mae adran 37 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33P er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i ysgolion arbennig.

  • Mae adran 38 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33Q er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau addysg uwch.

  • Mae adran 39 yn diwygio adran 152 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.

  • Mae adran 47 a pharagraffau 1 i 10 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 14 Chwefror 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 21 yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2000 fel bod y dyletswyddau cyffredinol sydd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 22 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33A sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio un cwricwlwm lleol o leiaf mewn cysylltiad â phob ardal awdurdod lleol ar gyfer myfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

  • Mae adran 24 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33C sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â llunio mwy nag un cwricwlwm lleol i ardal awdurdod lleol.

  • Mae adran 27 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33F sy'n gwneud darpariaeth o ran hawlogaeth myfyriwr i ddilyn cwrs astudio a ddewiswyd.

  • Mae adran 28 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.

  • Mae adran 29 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33H sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 30 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.