xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
17 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000(2);
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
2.—(1) Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 19 Ionawr 2011—
(a)adran 23 (cwricwla lleol: Y Gymraeg);
(b)adran 25 (penderfynu “relevant school or institution” ar gyfer disgybl);
(c)adran 26 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol);
(ch)adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33G(3) o Ddeddf 2000;
(d)adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33I(3) o Ddeddf 2000;
(dd)adran 31 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);
(e)adran 32 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);
(f)adran 33 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);
(ff)adran 34 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);
(g)adran 35 (y cwricwlwm lleol: dehongli);
(ng)adran 36 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);
(h)adran 37 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu);
(i)adran 38 (cymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch);
(j)adran 39 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);
(l)adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn llawn;
(ll)paragraffau 1 i 10 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
(2) Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 14 Chwefror 2011—
(a)adran 21 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed);
(b)adran 22 (llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed);
(c)adran 24 (ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol);
(ch)adran 27 (hawlogaethau myfyrwyr o ran y cwricwlwm lleol);
(d)adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(ch);
(dd)adran 29 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);
(e)adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(d).
Leighton Andrews
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 a 14 Chwefror 2011 amrywiol ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.
Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 fel a ganlyn:
Mae adran 23 yn mewnosod yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) adran 33B sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r ffaith eu bod ar gael.
Mae adran 25 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33D sy'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol bennu ysgol neu sefydliad perthnasol i'r disgybl os gofynnir iddo wneud hynny.
Mae adran 26 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33E sy'n rhoi i ddisgybl cofrestredig ysgol a gynhelir yr hawl i ddewis dilyn cwrs astudio neu gyrsiau astudio a gynhwysir mewn cwricwlwm lleol.
Mae adran 28 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33G sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio penodol neu gyrsiau astudio penodol.
Mae adran 30 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33I sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr mwyach yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.
Mae adran 31 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33J. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg bellach gynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio'r cwricwla lleol.
Mae adran 32 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33K sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.
Mae adran 33 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33L sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â goblygiadau cydweithio a orfodir gan adran 33K o Ddeddf 2000.
Mae adran 34 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33M. Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 33A(3) o Ddeddf 2000.
Mae adran 35 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33N. Mae'r adran hon yn cynnwys diffiniadau.
Mae adran 36 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33O ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.
Mae adran 37 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33P er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i ysgolion arbennig.
Mae adran 38 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33Q er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau addysg uwch.
Mae adran 39 yn diwygio adran 152 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.
Mae adran 47 a pharagraffau 1 i 10 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 14 Chwefror 2011 fel a ganlyn:
Mae adran 21 yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2000 fel bod y dyletswyddau cyffredinol sydd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol.
Mae adran 22 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33A sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio un cwricwlwm lleol o leiaf mewn cysylltiad â phob ardal awdurdod lleol ar gyfer myfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.
Mae adran 24 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33C sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â llunio mwy nag un cwricwlwm lleol i ardal awdurdod lleol.
Mae adran 27 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33F sy'n gwneud darpariaeth o ran hawlogaeth myfyriwr i ddilyn cwrs astudio a ddewiswyd.
Mae adran 28 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.
Mae adran 29 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33H sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol.
Mae adran 30 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi eu dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009 a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adrannau 2 a 3 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 4 yn rhannol | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 4 yn llawn | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adrannau 5 a 6 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 7 yn rhannol | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 7 yn llawn | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 8 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 9 yn rhannol | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 9 yn llawn | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 10 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 11 yn rhannol | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 11 yn llawn | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adrannau 12 i 14 | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adrannau 15 i 17 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 18 | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 19 | 1 Ionawr 2010 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 20 | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adrannau 40 i 45 | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) (C.141) |
Adran 47 yn rhannol | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) |
Paragraffau 11 i 22 o'r Atodlen | 7 Rhagfyr 2009 | 2009/3174 (Cy.276) |
Gweler hefyd adran 49(1) ar gyfer y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Gorffennaf 2009 (ddeufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).