2011 Rhif 97 (Cy.20) (C.6)
ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 20002;
  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Diwrnodau Penodedig2.

(1)

Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 19 Ionawr 2011—

(a)

adran 23 (cwricwla lleol: Y Gymraeg);

(b)

adran 25 (penderfynu “relevant school or institution” ar gyfer disgybl);

(c)

adran 26 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol);

(ch)

adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33G(3) o Ddeddf 2000;

(d)

adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33I(3) o Ddeddf 2000;

(dd)

adran 31 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);

(e)

adran 32 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);

(f)

adran 33 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);

(ff)

adran 34 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);

(g)

adran 35 (y cwricwlwm lleol: dehongli);

(ng)

adran 36 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);

(h)

adran 37 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu);

(i)

adran 38 (cymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch);

(j)

adran 39 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);

(l)

adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn llawn;

(ll)

paragraffau 1 i 10 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

(2)

Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 14 Chwefror 2011—

(a)

adran 21 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed);

(b)

adran 22 (llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed);

(c)

adran 24 (ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol);

(ch)

adran 27 (hawlogaethau myfyrwyr o ran y cwricwlwm lleol);

(d)

adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(ch);

(dd)

adran 29 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);

(e)

adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(d).

Leighton Andrews
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 a 14 Chwefror 2011 amrywiol ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 23 yn mewnosod yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) adran 33B sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r ffaith eu bod ar gael.

  • Mae adran 25 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33D sy'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol bennu ysgol neu sefydliad perthnasol i'r disgybl os gofynnir iddo wneud hynny.

  • Mae adran 26 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33E sy'n rhoi i ddisgybl cofrestredig ysgol a gynhelir yr hawl i ddewis dilyn cwrs astudio neu gyrsiau astudio a gynhwysir mewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 28 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33G sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio penodol neu gyrsiau astudio penodol.

  • Mae adran 30 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33I sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr mwyach yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.

  • Mae adran 31 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33J. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg bellach gynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio'r cwricwla lleol.

  • Mae adran 32 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33K sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 33 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33L sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â goblygiadau cydweithio a orfodir gan adran 33K o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 34 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33M. Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 33A(3) o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 35 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33N. Mae'r adran hon yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 36 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33O ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.

  • Mae adran 37 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33P er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i ysgolion arbennig.

  • Mae adran 38 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33Q er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau addysg uwch.

  • Mae adran 39 yn diwygio adran 152 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.

  • Mae adran 47 a pharagraffau 1 i 10 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 14 Chwefror 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 21 yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2000 fel bod y dyletswyddau cyffredinol sydd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 22 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33A sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio un cwricwlwm lleol o leiaf mewn cysylltiad â phob ardal awdurdod lleol ar gyfer myfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

  • Mae adran 24 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33C sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â llunio mwy nag un cwricwlwm lleol i ardal awdurdod lleol.

  • Mae adran 27 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33F sy'n gwneud darpariaeth o ran hawlogaeth myfyriwr i ddilyn cwrs astudio a ddewiswyd.

  • Mae adran 28 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.

  • Mae adran 29 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33H sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 30 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi eu dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009 a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth

Dyddiad cychwyn

O.S. Rhif

Adran 1

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adrannau 2 a 3

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 4 yn rhannol

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 4 yn llawn

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adrannau 5 a 6

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 7 yn rhannol

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 7 yn llawn

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 8

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 9 yn rhannol

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 9 yn llawn

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 10

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 11 yn rhannol

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 11 yn llawn

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adrannau 12 i 14

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adrannau 15 i 17

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 18

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 19

1 Ionawr 2010

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 20

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adrannau 40 i 45

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276) (C.141)

Adran 47 yn rhannol

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276)

Paragraffau 11 i 22 o'r Atodlen

7 Rhagfyr 2009

2009/3174 (Cy.276)

Gweler hefyd adran 49(1) ar gyfer y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Gorffennaf 2009 (ddeufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).