(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer yn ôl eu disgresiwn i osod ffi resymol ar oedolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Mae rheoliadau 10(2) a 11(2) o Reoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer yn ôl eu disgresiwn i ddyfarnu'r swm sy'n rhesymol ymarferol i'r sawl sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol i dalu drwy ad-daliad neu drwy gyfraniad tuag at sicrhau darparu'r gwasanaethau drwy daliad uniongyrchol.
Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gosod ffi neu'n dyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad, mae rheoliad 3 o'r rheoliadau hyn yn rhoi i'r sawl sy'n derbyn y gwasanaeth y gosodwyd ffi ar ei gyfer neu y dyfarnwyd ar ad-daliad neu gyfraniad ar ei gyfer (“y ceisydd”) yr hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.
Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff cynrychiolydd hefyd ofyn ar ran y ceisydd, ar yr amod bod y ceisydd yn rhoi ei awdurdodiad.
Mae rheoliad 5 yn rhoi i'r ceisydd yr hawl i dynnu cais a wnaeth yn ôl.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd gydnabyddiaeth ysgrifenedig o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl derbyn y cais. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn rhagnodi'r hyn y mae'n rhaid i'r gydnabyddiaeth ei gynnwys.
Pe bai'r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach gan y ceisydd, mae rheoliadau 7 ac 8 yn darparu sut a phryd y mae'n rhaid rhoi'r wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi penderfyniad i'r ceisydd, ynghyd â rhesymau, o fewn deg o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael digon o wybodaeth a dogfennau i gynnal yr adolygiad. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddo cyn gwneud ei benderfyniad.
Mae rheoliad 10 yn ymdrin â'r hyn sy'n digwydd i'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad o'r dyddiad y daw'r cais i law awdurdod lleol hyd nes ei fod yn cael ei dynnu'n ôl neu hyd nes bod yr awdurdod lleol yn anfon penderfyniad at y ceisydd (“y cyfnod adolygu”). Nid oes rwymedigaeth ar y ceisydd i dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu ond mae'r atebolrwydd yn parhau i gronni. Caiff yr awdurdod lleol adennill unrhyw swm a gronnwyd ar ôl y cyfnod adolygu.
O ran taliadau uniongyrchol, os bydd ceisydd yn hysbysu'r awdurdod lleol na fydd yn talu ei gyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, rhaid i'r awdurdod lleol wneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.
Pe bai'r awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn rhy uchel, rhaid iddo ddychwelyd y gordaliad i'r ceisydd o fewn deg o ddiwrnodau gwaith. Pe bai'r awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn rhy isel, caiff adennill unrhyw dandaliad oddi wrth y ceisydd.
Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, sy'n darparu mwy o fanylion am y broses adolygu.