Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, a ddarperir yn uniongyrchol neu a sicrheir gan yr awdurdod lleol (“defnyddwyr gwasanaeth”). Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau o dan y Mesur, sef Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Ffioedd”), ac y mae'n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â hwy wrth arfer y pŵer hwn.
Mae adran 12 o'r Mesur yn rhoi pŵer disgresiynol i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau, sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth (a wneir yn y Mesur ac yn y Rheoliadau Ffioedd), sef bod oedolyn sy'n dderbynnydd taliadau uniongyrchol (“D”) yn cael taliadau o'r fath i sicrhau darpariaeth o wasanaethau iddo'i hunan, yn unol â Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011, a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
Nid yw'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod awdurdod lleol yn ceisio cael unrhyw daliad (ar ffurf ad-daliad na chyfraniad) gan D tuag at y gost o sicrhau y darperir y gwasanaeth, neu'r cyfuniad o wasanaethau, wrth i'r awdurdod wneud taliad uniongyrchol i D i'w alluogi i sicrhau darpariaeth o “wasanaeth y caniateir codi ffi amdano”; fodd bynnag, mewn achosion pan yw'n ofynnol gan awdurdod lleol bod D yn gwneud taliad tuag at gost sicrhau gwasanaeth o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn ac unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003.
Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r amgylchiadau pan na chaniateir i awdurdod lleol ofyn am unrhyw daliad gan D tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi bod y pŵer sydd gan awdurdod lleol i benderfynu'r “swm rhesymol” y caniateir gofyn i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth yn ddarostyngedig i uchafswm rhesymol o £50 yr wythnos. Mae'r rheoliad hefyd yn cynnwys goleddfiadau i'r gosodiad cyffredinol hwnnw ac yn pennu'r camau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd wrth gyfrifo'r swm y gall D fod yn atebol i'w dalu.
Mae'r rheoliadau 6 i 16 yn rhoi manylion ynghylch y camau yn y broses o asesu modd ariannol D; a hefyd yn pennu pa faterion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu modd D ac wrth wneud penderfyniad ynglŷn â gallu D i dalu swm rhesymol tuag at gost y gwasanaeth yr aseswyd bod arno'i angen.
Mae rheoliad 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwahodd D i ofyn am asesiad modd. Mae'r rheoliadau dilynol yn gwneud darpariaeth ynghylch y terfynau amser ar gyfer cyflenwi gwybodaeth neu ddogfennaeth i awdurdod lleol (rheoliad 8), ceisiadau am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth (rheoliad 9), y canlyniadau os peidir ag ymateb, yn llawn neu o gwbl, i wahoddiad i ofyn am asesiad modd (rheoliadau 10 ac 11) a hawl D i dynnu'n ôl gais am asesiad (rheoliad 12).
Mae rheoliad 13 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd ariannol D mewn amgylchiadau rhagnodedig, a rheoliad 14 yn pennu'r amgylchiadau hynny.
Mae rheoliad 15 yn pennu amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd.
Mae rheoliad 16 yn cynnwys darpariaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi effaith iddi wrth gynnal asesiad o fodd D.
Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ynglŷn â gallu D i dalu swm rhesymol tuag at gost y gwasanaethau yr aseswyd bod arno'u hangen.
Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r ddyddiad y caniateir gwneud ad-daliad neu gyfraniad yn ofynnol ohono.
Mae rheoliad 19 yn cynnwys gofynion ynglŷn â'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei darparu mewn unrhyw ddatganiad a ddyroddir ganddo i D.
Mae rheoliad 20 a 21 yn cynnwys darpariaeth arbedion ar gyfer asesiadau modd a phenderfyniadau ynglŷn â'r gallu i dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth, a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Mae rheoliadau 22 ac 23 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol.