(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i osod ffi resymol ar oedolyn sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl (“defnyddiwr gwasanaeth”).

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gosod ffi wrth ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (diffinnir “gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano” yn adran 13 o'r Mesur); fodd bynnag, mewn achosion pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gosod ffi ar y defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i bolisi codi ffioedd yr awdurdod lleol hwnnw gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn (a chydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r dosbarthiadau o bersonau a gwasanaethau na chaniateir i awdurdod lleol osod ffioedd arnynt neu mewn perthynas â hwy.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi bod pŵer awdurdod lleol i benderfynu ffi resymol am wasanaeth, neu gyfuniad o wasanaethau, y caniateir codi ffi amdano yn ddarostyngedig i uchafswm ffi rhesymol o £50 yr wythnos; mae hefyd yn cynnwys goleddfiadau i'r gosodiad cyffredinol hwnnw ac yn pennu pa gamau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd wrth gyfrifo'r swm y bydd rhwymedigaeth ar ddefnyddiwr gwasanaeth i'w dalu.

Mae'r rheoliadau 6 i 16 yn rhoi manylion ynghylch y camau yn y broses o asesu modd ariannol defnyddiwr gwasanaeth. Maent hefyd yn pennu pa faterion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu modd defnyddiwr gwasanaeth ac wrth wneud penderfyniad ynghylch gallu'r person hwnnw i dalu ffi resymol am y gwasanaeth neu'r gwasanaethau a ddarperir.

Mae rheoliad 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwahodd defnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad modd. Mae'r rheoliadau dilynol yn gwneud darpariaeth ynghylch terfynau amser ar gyfer cyflenwi gwybodaeth neu ddogfennaeth i awdurdod lleol (rheoliad 8), ceisiadau am estyn yr amser a ganiateir i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth (rheoliad 9), y canlyniadau os peidir ag ymateb, yn llawn neu o gwbl, i wahoddiad i ofyn am asesiad modd (rheoliadau 10 ac 11) a thynnu cais o'r fath yn ôl (rheoliad 12).

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi'r amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth.

Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi effaith iddi wrth gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi resymol am y gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt ac a gynigir, neu a ddarperir, i'r person hwnnw.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r ddyddiad y caniateir gosod ffi ohono.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn cynnwys darpariaeth arbedion ar gyfer asesiadau modd a phenderfyniadau ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol.