Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 962 (Cy.136)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed

24 Mawrth2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth2011

Yn dod i rym

11 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(2), 3(1), 4(1)(d), 4(3)(b), 4(4), 5(2)(a), 5(4), 6(5), 7(2), 8(3), 9(4)(d), 10(4)(f) a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Awdurdod lleol – pŵer i godi ffioedd am wasanaethau

3.  Pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i godi ffioedd am wasanaethau yn unol ag adran 1 o'r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal) rhaid iddo roi effaith i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Defnyddwyr gwasanaeth na chaniateir gosod ffioedd arnynt, a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd mewn perthynas â hwy

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod ffi o dan adran 1 o'r Mesur ar ddefnyddiwr gwasanaeth sydd—

(a)wedi cael cynnig, neu sy'n cael, gwasanaeth, ac sy'n dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creuzfeldt Jacob, pan fo ymarferydd meddygol cofrestredig wedi gwneud diagnosis clinigol o'r clefyd hwnnw;

(b)wedi cael cynnig, neu sy'n cael, gwasanaeth a ddarperir yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)(9); neu

(c)wedi cael asesiad modd a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, ac aseswyd bod ei incwm yn llai na'r cyfanswm y cyfeirir ato yn rheoliad 15(2).

(2Rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod ffi o dan adran 1 o'r Mesur mewn perthynas ag unrhyw un o'r gwasanaethau a bennir yn y paragraff hwn—

(a)darparu cludiant i ddefnyddiwr gwasanaeth i fod yn bresennol mewn gwasanaeth dydd, pan fo'i bresenoldeb mewn gwasanaeth dydd a darpariaeth o gludiant i'w alluogi i fod yn bresennol felly wedi eu cynnwys yn rhan o'r asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)darparu datganiad o wybodaeth yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur (darparu gwybodaeth am ffioedd).

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i bennu categorïau ychwanegol o ddefnyddwyr gwasanaeth neu o wasanaethau na chaniateir gosod ffioedd arnynt neu mewn perthynas â hwy.

(4Nid yw rheoliadau 5 i 16 yn gymwys i ddefnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) neu (b) o baragraff (1).

Uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol arfer y pŵer yn adran 1(2) o'r Mesur (penderfynu ffi resymol am ddarparu gwasanaeth) yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y caiff awdurdod lleol benderfynu sy'n ffi resymol am ddarparu gwasanaeth neu gyfuniad o wasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth (“uchafswm ffi rhesymol”) (“maximum reasonable charge”) yw £50 yr wythnos.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo gan ddefnyddiwr gwasanaeth anghenion asesedig a fodlonir gan ddarpariaeth ddeuol, £50 yr wythnos yw uchafswm cyfanredol y symiau y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod y defnyddiwr gwasanaeth yn eu talu mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno, fel—

(a)ffi, a

(b)taliad tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth, a gyfrifir yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(4Wrth gyfrifo yr uchafswm ffi rhesymol y gall defnyddiwr gwasanaeth fod dan rwymedigaeth i'w dalu, rhaid i awdurdod lleol—

(a)diystyru cost sicrhau unrhyw wasanaeth y mae'n codi ffi unffurf amdano, a

(b)caiff osod y ffioedd mewn perthynas â gwasanaeth o'r fath, yn ychwanegol at uchafswm rhesymol y ffi.

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ffi

6.—(1Wrth gyfrifo'r swm a delir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, neu'r swm y gellir gwneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu'r weithdrefn a ganlyn —

(a)cyfrifo swm costau rhesymol yr awdurdod am y gwasanaeth a dderbynnir gan, neu a gynigir i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(b)o'r cyfanswm hwnnw, diystyru swm unrhyw ffioedd am wasanaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(4);

(c)ar y swm canlyniadol, gweithredu'r uchafswm ffi rhesymol; ac os byddai'r swm canlyniadol, fel arall, yn fwy na'r uchafswm, yr uchafswm hwnnw, yn ddarostyngedig i is-baragraff (ch), yw'r swm y caniateir gwneud yn ofynnol bod y defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu;

(ch)gwneud y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (c) yn destun penderfyniad ynghylch gallu'r defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, yn unol ag adran 7 o'r Mesur a rheoliad 15.

(2Ni chymerir y cam y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(ch) ac eithrio pan fo—

(a)y defnyddiwr gwasanaeth wedi gofyn am asesiad modd; a

(b)yr awdurdod lleol wedi cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth,

yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur a rheoliad 14.

Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

7.—(1Pan fo'n ofynnol o dan adran 4 o'r Mesur (gwahoddiad i ofyn am asesid modd) bod awdurdod lleol yn rhoi gwahoddiad i ddefnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad o'i fodd o dan adran 5(1) o'r Mesur (dyletswydd i gynnal asesiad modd), neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud hynny yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y gwahoddiad yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â'r canlynol—

(a)y gwasanaethau a gynigir neu a ddarperir i'r defnyddiwr gwasanaeth, ac yr ystyrir codi ffi amdanynt;

(b)polisi'r awdurdod lleol ar godi ffioedd, gan gynnwys y canlynol—

(i)ei bolisi ynglŷn â pha rai o'r gwasanaethau a ddarperir ganddo, os oes rhai, y caniateir codi ffioedd amdanynt,

(ii)manylion ynghylch y ffi safonol(10) y gellir ei gosod mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath,

(iii)manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y codir ffi unffurf amdano, a

(iv)manylion ynghylch yr uchafswm ffi rhesymol y caniateir ei osod yn unol â rheoliad 5, neu'r uchafswm rhesymol a bennir gan yr awdurdod lleol, os yw'r swm hwnnw'n llai;

(c)proses yr awdurdod lleol ar gyfer asesu modd;

(ch)ei weithdrefn ar gyfer ymdrin ag asesu modd defnyddiwr gwasanaeth nad yw'n cael dim ond y gwasanaethau hynny y gosodir ffi unffurf mewn perthynas â hwy;

(d)yr wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn eu darparu er mwyn cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth;

(dd)y cyfnod o amser, fel a bennir yn rheoliad 8 pan yw'n ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn cyflenwi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)ym mha fformat y bydd yr awdurdod lleol yn fodlon derbyn y wybodaeth a'r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d),

(f)unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;

(ff)y canlyniadau os methir ag ymateb i'r gwahoddiad yn unol ag is-baragraff (dd);

(g)enw'r unigolion o fewn yr awdurdod, y dylai defnyddiwr gwasanaeth gysylltu ag ef, pe bai angen gwybodaeth neu gymorth ychwanegol ar y person hwnnw ynglŷn ag unrhyw rai o'r prosesau sy'n gysylltiedig â rhoi'r gwahoddiad;

(ng)hawl defnyddiwr gwasanaeth i benodi trydydd parti i'w gynorthwyo neu weithredu ar ei ran, mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r broses asesu modd; ac

(h)manylion cyswllt unrhyw sefydliad o fewn ardal yr awdurdod lleol sy'n darparu cefnogaeth neu gymorth o'r math y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (ng).

(2Pan fo awdurdod lleol o'r farn yn rhesymol fod un neu ragor o'r amgylchiadau a ragnodir gan adran 9(4) o'r Mesur (awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu) yn gymwys, rhaid iddo wahodd defnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad newydd o'i fodd yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur, gyda golwg ar i'r awdurdod wneud penderfyniad pellach ynghylch gallu'r person hwnnw i dalu ffi yn unol ag adran 9 o'r Mesur a rheoliad 15.

(3Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth(11).

Yr ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

8.—(1Rhaid i ddefnyddiwr gwasanaeth neu, yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu (4), gynrychiolydd defnyddiwr gwasanaeth, ddarparu ymateb i'r awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod hwy y caiff awdurdod lleol, yn rhesymol, ei ganiatáu yn unol â rheoliad 9) ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y gwahoddiad.

(2Mae defnyddiwr gwasanaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad a bennir ym mharagraff (1) os yw'r person hwnnw, neu gynrychiolydd y person hwnnw—

(a)yn gofyn am i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o'i fodd yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur;

(b)yn gofyn am gymorth gan unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir, os oes angen cymorth o'r fath;

(c)yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol, yn y fformat y cytunodd yr awdurdod lleol i dderbyn yr wybodaeth ynddo;

(ch)yn darparu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol;

(d)yn gofyn am estyniad amser, os oes angen un, er mwyn darparu'r wybodaeth neu'r dogfennaeth (neu'r ddwy) y gofynnwyd amdani neu amdanynt yn unol â rheoliad 7(1)(d), gan roi rheswm neu resymau pam y mae angen estyniad amser.

(3Pan fo defnyddiwr gwasanaeth wedi penodi cynrychiolydd i weithredu ar ei ran, rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth ddarparu'r canlynol i'r awdurdod lleol —

(a)enw a chyfeiriad y cynrychiolydd,

(b)cadarnhad bod y cynrychiolydd yn fodlon gweithredu ar ei ran,

(c)manylion ynghylch natur a maint cyfranogiad y cynrychiolydd yn y broses o asesu modd, ac

(ch)manylion ynghylch natur a maint yr wybodaeth y caiff yr awdurdod lleol ei rhannu gyda chynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

(4Pan fod cynrychiolydd wedi ei benodi i weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth, gan y Llys Gwarchod neu'n unol â Deddf Atwrneiaeth Barhaus 1985(12) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(13), rhaid i'r dirprwy neu'r atwrnai a benodir felly ddarparu i'r awdurdod lleol—

(a)y fersiwn wreiddiol neu gopi ardystiedig o'r atwrneiaeth barhaus, neu atwrneiaeth arhosol neu gopi ardystiedig o'r gorchymyn llys priodol, a

(b)dogfennaeth i brofi enw a chyfeiriad yr atwrnai neu ddirprwy a'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'n gweithredu ar ei ran.

(5Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4), mae unrhyw gyfeiriad at ddefnyddiwr gwasanaeth yn y rheoliad hwn neu yn rheoliadau 9 i 13 yn cynnwys cynrychiolydd y person hwnnw.

(6Caniateir i unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (2), neu benodiad a wneir yn unol â pharagraff (3), gael ei wneud neu'i gyfleu ar lafar neu mewn ysgrifen gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau gan awdurdod lleol mewn ysgrifen neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth.

Cais am estyniad amser er mwyn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth

9.—(1Rhaid i awdurdod lleol gydsynio ag unrhyw gais rhesymol am estyniad amser, a wneir yn unol â rheoliad 8(2)(d).

(2Os yw defnyddiwr gwasanaeth yn gofyn am estyniad amser ar lafar, caiff awdurdod lleol roi ei ymateb i'r cais hwnnw ar lafar, ond rhaid iddo hefyd gadarnhau'r ymateb mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth.

(3Wrth ymateb i gais am estyniad amser, rhaid i awdurdod lleol gadarnhau a yw'n caniatáu'r cais ai peidio, ac os yw'n ei ganiatáu, rhaid iddo ddatgan cyfnod yr estyniad.

(4Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyniad amser, rhaid iddo roi ei resymau dros wrthod y cais.

Methiant i ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

10.—(1Pan fo defnyddiwr gwasanaeth yn peidio ag ymateb i wahoddiad yn unol â rheoliad 8, caiff awdurdod lleol osod y ffi safonol ar gyfer y gwasanaeth a gynigiwyd, neu y mae'r defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael, ac sydd, yn y naill achos a'r llall, yn destun y gwahoddiad.

(2Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi safonol yn unol â pharagraff (1) yn ddarostyngedig i'r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5.

(3Pan fo paragraff (1) yn gymwys, bydd y ffi a osodir ar ddefnyddiwr gwasanaeth yn daladwy o'r dyddiad y darperir datganiad gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur (darparu gwybodaeth am ffioedd).

(4Os yw defnyddiwr gwasanaeth yn ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd ar ôl i awdurdod lleol osod y ffi safonol neu, pan fo'n berthnasol, yr uchafswm ffi rhesymol—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol fynd ymlaen i gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur (dyletswydd i gynnal asesiad modd) a rheoliad 14 ac i wneud penderfyniad yn unol ag adran 7 o'r Mesur (penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu)(14) a rheoliad 15;

(b)ni fydd y camau a gymerir gan yr awdurdod lleol o dan is-baragraff (a) yn effeithio ar atebolrwydd y defnyddiwr gwasanaeth i dalu unrhyw ffioedd a dynnwyd ganddo o'r dyddiad y darparwyd y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3); ac

(c)bydd y datganiad a ddarperir yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur, o ganlyniad i'r asesiad a'r penderfyniad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (“yr ail ddatganiad”) (“the second statement”) yn disodli'r datganiad a ddarparwyd yn unol â pharagraff (3), a bydd yr ail ddatganiad yn cael effaith o'r dyddiad y'i darperir.

(5Yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw ddatganiad, y mae'n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddarparu yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur, wedi ei “ddarparu” (“provided”) ar y dyddiad y'i dyroddir gan awdurdod lleol.

Methiant i gyflenwi'r holl wybodaeth a dogfennaeth perthnasol

11.—(1Pan fo defnyddiwr gwasanaeth wedi methu—

(a)cyflenwi, neu

(b)ceisio estyniad amser ar gyfer cyflenwi,

yr holl wybodaeth a dogfennaeth y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol gan awdurdod lleol i'w alluogi i gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur a rheoliad 14, caiff yr awdurdod lleol wneud asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth ar sail yr wybodaeth rannol neu'r ddogfennaeth rannol (neu'r ddwy) a gyflenwyd.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad yn unol ag adran 7 o'r Mesur a rheoliad 15;

(b)yn ddarostyngedig i'r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5, gosod ffi ar y defnyddiwr gwasanaeth ar sail ei benderfyniad; ac

(c)mynd ymlaen i ddarparu datganiad yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur.

(3Pan osodir ffi yn unol â pharagraff (2), gosodir y ffi honno o'r dyddiad y darperir y datganiad gan yr awdurdod lleol, y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c).

Tynnu cais am asesiad modd yn ôl

12.—(1Caiff defnyddiwr gwasanaeth dynnu cais am asesiad modd yn ôl drwy hysbysu awdurdod lleol o'i benderfyniad, ar unrhyw adeg cyn bo'r asesiad modd wedi ei gwblhau.

(2Caiff defnyddiwr gwasanaeth hysbysu'r awdurdod lleol o'r penderfyniad i dynnu cais am asesiad modd yn ôl naill ai ar lafar, mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth.

(3Pan dynnir cais yn ôl yn unol â'r rheoliad hwn, caiff awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i'r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir gan reoliad 5, osod y ffi safonol mewn perthynas â'r gwasanaeth a oedd yn destun y gwahoddiad i ofyn am asesiad modd.

(4Mewn unrhyw achos pan fo defnyddiwr gwasanaeth yn hysbysu awdurdod lleol ynghylch tynnu ei gais am asesiad modd yn ôl, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)cydnabod cael yr hysbysiad, mewn ysgrifen ac mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth;

(b)rhoi gwybod i'r defnyddiwr gwasanaeth nad yw tynnu'r cais hwnnw yn ôl yn rhwystro cyflwyno cais pellach am asesiad modd, mewn perthynas â'r un gwasanaeth neu wasanaeth gwahanol; ac

(c)rhoi gwybod i'r defnyddiwr gwasanaeth pa un ai'r ffi safonol ynteu'r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5, a osodir mewn perthynas â'r gwasanaeth a gynigir neu a geir gan y defnyddiwr gwasanaeth.

(5Pan osodir ffi ar ddefnyddiwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (3), gosodir y ffi honno o'r dyddiad y darperir y datganiad gan yr awdurdod lleol, yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur.

Dim dyletswydd i gynnal asesiad modd

13.  Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth—

(a)nad yw'n cael unrhyw wasanaeth ac eithrio gwasanaeth neu gyfuniad o wasanaethau y mae'r awdurdod lleol yn codi ffi unffurf amdano, neu

(b)sy'n peidio ag ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd yn unol â rheoliad 8, neu

(c)sy'n tynnu'n ôl ei gais am asesiad modd yn unol â rheoliad 12.

Proses yr asesiad modd

14.—(1Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur, rhaid iddo sicrhau bod y broses asesu a ddefnyddir ganddo'n rhoi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth gynilion neu gyfalaf defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) ac i baragraff (3), gyfrifo cyfalaf defnyddiwr gwasanaeth yn unol â darpariaethau Rhan 3 o Reoliadau 1992;

(b)diystyru gwerth prif breswylfa'r defnyddiwr gwasanaeth wrth gyfrifo cyfalaf y person hwnnw.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) sy'n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo cyfalaf defnyddiwr gwasanaeth, i gymhwyso unrhyw griteria sy'n fwy hael wrth y defnyddiwr gwasanaeth na'r criteria a gymhwysir o bryd i'w gilydd yn y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a).

(4Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth incwm defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)asesu pa ran o incwm y defnyddiwr gwasanaeth sy'n cyfansoddi'n briodol “enillion” (“earnings”) yn unol â'r diffiniad o “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(15), neu, yn ôl fel y digwydd, yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(16);

(b)diystyru'r enillion hynny yn llawn;

(c)diystyru yn llawn unrhyw swm a gaiff defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â chredyd cynilion; a

(ch)diystyru yn llawn unrhyw daliad a geir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ac y cyfeirir ato ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)(17).

(5Nid oes dim ym mharagraff (4) sy'n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo incwm defnyddiwr gwasanaeth, i gymhwyso unrhyw griteria sy'n fwy hael wrth y defnyddiwr gwasanaeth na'r darpariaethau ym mharagraff (4).

(6Yn y rheoliad hwn—

Penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi

15.—(1Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad ynghylch gallu ddefnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol ag adran 7 o'r Mesur (penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu) neu adran 9 o'r Mesur (awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu) rhaid iddo roi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2Rhaid i awdurdod lleol sicrhau, wrth benderfynu'r ffi sydd i'w gosod am wasanaeth a gynigir i, neu a geir gan, ddefnyddiwr gwasanaeth, nad yw hynny'n lleihau incwm net y defnyddiwr gwasanaeth—

(a)pan fo'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy'n llai na chyfanswm y canlynol—

(i)yr hawlogaeth sylfaenol i'r budd-dal perthnasol y mae'r person hwnnw'n ei gael, a

(ii)swm o ddim llai na 35% o'r hawlogaeth honno (“clustog”) (“a buffer”), a

(iii)swm i ddigolledu'r defnyddiwr gwasanaeth am ei wariant perthynol i'w anabledd, sef dim llai na 10% o'r hawlogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i); neu

(b)pan nad yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy'n llai na chyfanswm y canlynol—

(i)swm a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol, o ystyried oedran, lefel anabledd ac amgylchiadau personol y person, a fyddai'n hafal i hawlogaeth sylfaenol y defnyddiwr gwasanaeth i fudd-dal perthnasol, a

(ii)clustog o ddim llai na 35% o'r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i), a

(iii)swm i ddigolledu'r defnyddiwr gwasanaeth am ei wariant perthynol i'w anabledd, sef dim llai na 10% o'r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i).

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu'r swm i ddigolledu am unrhyw wariant perthynol i anabledd, wrth wneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1).

Effaith penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi

16.—(1Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol â rheoliad 15 am wasanaeth–

(a)sy'n cael ei gynnig i ddefnyddiwr gwasanaeth am y tro cyntaf; neu

(b)sy'n cael ei ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth, ond y gosodir ffi mewn perthynas ar ef am y tro cyntaf,

ni chaiff yr awdurdod lleol osod ffi cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur.

(2Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad pellach ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, yn unol â rheoliad 7(2), ni chaiff osod nac ychwaith newid ffi cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur.

(3Pan fo datganiad, y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) neu (2), yn disodli datganiad a wnaed yn gynharach yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur (“y datganiad cynharach”) (“the earlier statement”), bydd y datganiad cynharach yn parhau i gael effaith tan y dyddiad y darperir y datganiad dilynol.

Arbediad

17.  Yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, os oes—

(a)asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth, neu

(b)penderfyniad ynglŷn â'r ffi sydd i'w thalu gan ddefnyddiwr gwasanaeth,

yn cael effaith, bydd y cyfryw asesiad neu benderfyniad yn parhau i gael effaith, er nad yw wedi ei wneud yn unol â'r Mesur ac â'r Rheoliadau hyn.

18.  Bydd unrhyw asesiad neu benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 17 yn parhau i gael effaith hyd nes disodlir ef gan asesiad neu benderfyniad a wneir yn unol â'r Mesur ac â'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol

19.  Os yw awdurdod lleol, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cael gwybodaeth a dogfennaeth gan ddefnyddiwr gwasanaeth i'w alluogi i—

(a)cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth, neu

(b)penderfynu ar y ffi sydd i'w thalu gan y defnyddiwr gwasanaeth,

ond nad yw'r asesiad wedi ei gynnal, neu nad yw'r penderfyniad wedi ei wneud pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod lleol gynnal y cyfryw asesiad yn unol â darpariaethau adran 5 o'r Mesur a rheoliad 14 neu wneud y cyfryw benderfyniad yn unol â darpariaethau adrannau 7 neu 9 o'r Mesur a rheoliad 15.

Darpariaeth ddarfodol

20.—(1Pan fo asesiad yn cael effaith yn unol â rheoliad 18—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol gymhwyso darpariaethau rheoliadau 4, 5, 6 a 14 i'r cyfryw asesiad er na chynhaliwyd yr asesiad yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac eithrio na fydd rheoliad 6(2) yn cael effaith,

(b)ni fydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol weithredu yn unol ag adran 4 o'r Mesur neu reoliad 7, ac eithrio y bydd rheoliad 7(2) yn cael effaith,

(c)rhaid i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5 o'r Mesur os bodlonir pob un o'r amodau yn adran 6 o'r Mesur ac os yw'r defnyddiwr gwasanaeth wedi gofyn am asesiad o'r fath, ac

(ch)rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol â rheoliad 15, fel pe bai'r asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth wedi ei gynnal yn unol ag adran 7 neu 9 o'r Mesur.

(2Mae rheoliad 16(3) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff (1)(ch), fe pe bai'r datganiad cynharach y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw yn benderfyniad sy'n cael effaith yn unol â rheoliad 18.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i osod ffi resymol ar oedolyn sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl (“defnyddiwr gwasanaeth”).

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gosod ffi wrth ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (diffinnir “gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano” yn adran 13 o'r Mesur); fodd bynnag, mewn achosion pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gosod ffi ar y defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i bolisi codi ffioedd yr awdurdod lleol hwnnw gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn (a chydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r dosbarthiadau o bersonau a gwasanaethau na chaniateir i awdurdod lleol osod ffioedd arnynt neu mewn perthynas â hwy.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi bod pŵer awdurdod lleol i benderfynu ffi resymol am wasanaeth, neu gyfuniad o wasanaethau, y caniateir codi ffi amdano yn ddarostyngedig i uchafswm ffi rhesymol o £50 yr wythnos; mae hefyd yn cynnwys goleddfiadau i'r gosodiad cyffredinol hwnnw ac yn pennu pa gamau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd wrth gyfrifo'r swm y bydd rhwymedigaeth ar ddefnyddiwr gwasanaeth i'w dalu.

Mae'r rheoliadau 6 i 16 yn rhoi manylion ynghylch y camau yn y broses o asesu modd ariannol defnyddiwr gwasanaeth. Maent hefyd yn pennu pa faterion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu modd defnyddiwr gwasanaeth ac wrth wneud penderfyniad ynghylch gallu'r person hwnnw i dalu ffi resymol am y gwasanaeth neu'r gwasanaethau a ddarperir.

Mae rheoliad 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwahodd defnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad modd. Mae'r rheoliadau dilynol yn gwneud darpariaeth ynghylch terfynau amser ar gyfer cyflenwi gwybodaeth neu ddogfennaeth i awdurdod lleol (rheoliad 8), ceisiadau am estyn yr amser a ganiateir i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth (rheoliad 9), y canlyniadau os peidir ag ymateb, yn llawn neu o gwbl, i wahoddiad i ofyn am asesiad modd (rheoliadau 10 ac 11) a thynnu cais o'r fath yn ôl (rheoliad 12).

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi'r amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth.

Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi effaith iddi wrth gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi resymol am y gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt ac a gynigir, neu a ddarperir, i'r person hwnnw.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r ddyddiad y caniateir gosod ffi ohono.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn cynnwys darpariaeth arbedion ar gyfer asesiadau modd a phenderfyniadau ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol.

(1)

2010 mccc 2 (“y Mesur”). Gweler adran 17 o'r Mesur am y diffiniad o “rheoliadau”.

(7)

Diffinnir “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” yn adran 13 o'r Mesur.

(10)

Diffinnir “ffi safonol” yn adran 7(4) o'r Mesur.

(11)

Am esboniad o ystyr “unrhyw fformat sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth”, gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, sy'n dwyn yr enw Introducing More Consistency in Local Authority Charging for Non-Residential Social Services.

(12)

1985 p. 29 (“Deddf 1985”). Disodlwyd Deddf 1985 gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“Deddf 2005”), a disodlwyd atwrneiaeth barhaus yr un pryd gan atwrneiaeth arhosol (ond bydd atwrneiaethau parhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007 yn parhau'n ddilys). Mae Deddf 2005 yn caniatáu i'r Llys Gwarchod benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran personau nad oes “galluedd” ganddynt yn yr ystyr a roddir i “capacity” gan Ddeddf 2005 Act. Bydd dirprwyon (“deputies”) yn cymryd lle “derbynwyr” (“receivers”) (ond bydd unrhyw dderbynnydd a benodwyd cyn 1 Hydref 2007 yn cadw ei bwerau ond yn cael ei drin fel dirprwy gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (sy'n cymryd lle'r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus).

(13)

2005 p.9.

(14)

Mae adran 7 o'r Mesur yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol benderfynu a yw'n rhesymol ymarferol ai peidio, i ddefnyddiwr gwasanaeth dalu'r ffi safonol (neu unrhyw ffi) am wasanaeth a gynigir neu a ddarperir i'r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw gan awdurdod lleol.

(17)

Disgrifir y taliadau, y cyfeirir atynt ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992, ym mharagraff 39 o Atodlen 9 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) fel “any payment made under or by the MacFarlane Trust, the Macfarlane (Special Payments) Trust, the Macfarlane (Special Payments) (No.2) Trust, the Fund, the Eileen Trust, MFET Limited or the Independent Living Fund (2006).”.