2011 Rhif 962 (Cy.136)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(2), 3(1), 4(1)(d), 4(3)(b), 4(4), 5(2)(a), 5(4), 6(5), 7(2), 8(3), 9(4)(d), 10(4)(f) a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 20101, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: