- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”) sy'n dod â darpariaethau penodedig yn Neddf 2008 i rym o ran Cymru.
Mae erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 28 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau yn y Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru—
mae erthygl 2(1)(a) yn cychwyn adran 15 o'r Ddeddf (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; yna caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru sicrhau bod cynrychiolydd o'r awdurdod yn ymweld â phlant sy'n derbyn gofal, a phlant eraill a all fod wedi derbyn gofal yn y gorffennol, mewn amgylchiadau rhagnodedig;
mae erthygl 2(1)(b) yn cychwyn adran 19 o'r Ddeddf (cymorth i blant sy'n cael eu lletya), a fydd yn estyn rhwymedigaethau awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth i blant sy'n cael eu lletya (sy'n cael eu diffinio drwy gyfeirio at adrannau 85 ac 86 o Ddeddf Plant 1989);
mae erthygl 2(1)(c) yn cychwyn adran 29 o'r Ddeddf (hysbysu am faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, er mwyn mewnosod adran 30A newydd yn Neddf Safonau Gofal 2000. Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hysbysu pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr pan fo camau gorfodi penodol yn cael eu cymryd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;
mae erthygl 2(1)(ch) yn cychwyn adran 42 o'r Ddeddf ac Atodlen 4 iddi (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r canlynol—
y diddymiadau yn adran 104 o Ddeddf Plant 1989, a
y diddymiadau yn adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 1 Medi 2011 yw'r diwrnod penodedig i adran 20 o'r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym). Bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddynodi aelod o'r staff i fod yn un sy'n gyfrifol dros hybu cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal ac sy'n ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol (diffinnir ysgol a gynhelir (“maintained school”) a disgybl cofrestredig (“registered pupil”) yn eu tro yn Neddfau Addysg 2002 a 1996).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: