21.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad wneud yn ofynnol bod person y gosodwyd cosb ariannol newidiol arno yn talu'r costau a achoswyd i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â gosod y gost, hyd at yr amser y'i gosodwyd.
(2) Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo wneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n darparu dadansoddiad manwl o'r swm a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Nid yw'r person y mae'n ofynnol ei fod yn talu costau dan rwymedigaeth i dalu unrhyw gostau a ddangosir, gan y person hwnnw, eu bod yn gostau a achoswyd yn ddiangen.
(5) Yn yr erthygl hon, mae “costau” yn cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau caffael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).