Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2011. Bydd Rheoliadau 2011 yn parhau i fod yn gymwys i'r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012. Nodir graddau'r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn.

I fod yn gymwys am gymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr amser-llawn cymwys os yw'r person hwnnw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau (mae darpariaethau cymhwystra ar wahân yn gymwys i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell, rhan-amser ac ôl-radd, a chyfeirir atynt yn Rhannau 11 i 13 o'r Rheoliadau).

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 74, 91, 117 ac Atodlen 2, yn unig, y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae'r gwahaniaeth (a gyflwynwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006) rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn wedi ei gadw yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 2(1)).

Myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yw myfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006, myfyrwyr a gymerodd flwyddyn i ffwrdd ac sy'n dechrau ar gyrsiau cyn 1 Medi 2007 a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol—

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys a ddechreuodd ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2012, neu sy'n dechrau ei gwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol—

Yr oedd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009 wedi cyflwyno dau is-gategori newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2010” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010”. Yr oedd Rheoliadau 2011 wedi cyflwyno dau is-gategori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2011” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011”. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno categori newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef myfyriwr carfan 2012. Myfyriwr carfan 2012 yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae'r diffiniad o fyfyriwr carfan 2012 yn rheoliad 2(1) yn darparu nad yw categorïau penodol o fyfyrwyr yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2012. Mae'r term “myfyriwr carfan newydd (“new cohort student”) yn rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio i ddisgrifio myfyrwyr carfan 2010, myfyrwyr carfan 2011 a myfyrwyr carfan 2012.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau ar gyfer ffioedd a benthyciadau at ffioedd. Darperir yn y Rheoliadau hyn nad oes hawl gan fyfyriwr carfan newydd i gael grant at ffioedd (rheoliad 19(6)). Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer talu grant newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes hawl ganddynt i gael grant at ffioedd. Mae myfyriwr carfan newydd yn dod o fewn y categori hwnnw. Mae rheoliad 24 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr sydd â hawl i gael grant at ffioedd o dan reoliad 19.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy'n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod swm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan newydd (rheoliadau 39 a 43); yn fyfyriwr carfan 2010 ac yn fyfyriwr carfan 2012 (rheoliadau 40 a 44); neu'n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliadau 41 a 45). £5,000 yw uchafswm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 a £5,600 i fyfyriwr carfan 2011.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Mae benthyciadau o'r fath yn daladwy i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn ac i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.

Gall swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan newydd (rheoliad 49); yn fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012 (rheoliad 51); neu'n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 52).

Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i'w cael. Gwnaed newid arall hefyd yn Atodlen 5, yn y dull o gyfrifo'r cyfraniad sydd i'w wneud gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan newydd; yn fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012; neu'n fyfyriwr carfan 2011 (gweler paragraff 9 o Atodlen 5).

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig.

Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae Rhan 14 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2011.