2011 Rhif 885 (Cy.129)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 20041 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Dyma'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 28(6) o'r Ddeddf honno sy'n rhagnodi'r swm sylfaenol a'r swm uwch at ddibenion yr adran honno.

Yn unol ag adran 26(1) o'r Ddeddf honno3 gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.