2011 Rhif 884 (Cy.128)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 33, 34, 35, 36, 38, 39 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 20041 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(4) o'r Ddeddf honno3, gosodwyd copi drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.