- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Gwnaed
17 Mawrth 2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
Gwneir y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 15(8)(1), a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(2), o ran cosbau a roddir gan—
(a)awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru,
(b)Asiantaeth yr Amgylchedd o ran methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru, ac
(c)Gweinidogion Cymru.
Ymgynghorwyd â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ac mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymreig y Cyngor Cyfiawnder a Thribiwnlysoedd, yn unol ag adran 44 o Ddeddf y Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(3)a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.
Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 15(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
1. O ran y Rheoliadau hyn—
(a)eu henw yw Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011;
(b)deuant i rym ar 6 Ebrill 2011; ac
(c)maent yn gymwys o ran cosbau a roddir gan—
(i)awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;
(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru; a
(iii)Gweinidogion Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 15(1) o'r Ddeddf mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad o dan adran 14(1) neu (3) o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth;
ystyr “hysbysiad o gosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad gan awdurdod o dan adran 15(3) o'r Ddeddf sy'n rhoi cosb i berson sy'n methu â darparu gwybodaeth a bennir mewn hysbysiad gorfodi yn y cyfnod penodedig.
3. Caiff person y rhoddwyd cosb iddo gan hysbysiad o gosb apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gosb.
4. At ddibenion rheol 22(2)(g) o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009(4), y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad o gosb wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm arall.
5. Rhaid i'r canlynol fynd gyda hysbysiad o apêl(5) o dan reol 22 o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (yn ychwanegol at fod yn rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â gofynion y Rheolau hynny)—
(a)copi o'r hysbysiad gorfodi;
(b)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed o dan adran 15(2)(c) o'r Ddeddf;
(c)copi o'r hysbysiad o gosb.
6. Rhaid i awdurdod sy'n cael hysbysiad o apêl gan berson y mae wedi rhoi cosb iddo beidio â chymryd camau i adennill y gosb ar ffurf dyled hyd oni ddyfernir ar yr apêl neu hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl.
7. Pan benderfynir ar apêl o dan reoliad 3, rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
(a)cadarnhau'r gosb;
(b)lleihau'r gosb; neu
(c)dileu'r gosb.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hawl i apelio yn erbyn cosbau a roddir o dan adran 15 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) o ran Cymru. Maent yn rhoi awdurdodaeth i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf i ystyried apelau a wneir o dan y Rheoliadau hyn. Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefn, gan gynnwys: y seiliau dros apelio; effaith apêl; a phwerau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf wrth ddyfarnu ar yr apêl.
Mae Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976) hefyd yn llywodraethu apelau o dan adran 15 o'r Ddeddf a'r broses o ddwyn apêl.
Mae asesiad o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes, costau'r sector gwirfoddol a chostau'r sector cyhoeddus ar gael gan: Yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rhoddir y pŵer gan adran 15(8) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i “the Minister”, ac mae adran 15(10) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr adran.
Gweler rheol 1(3) o O.S. 2009/1976 ar gyfer ystyr “hysbysiad o apêl”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: