(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”), sy'n dwyn darpariaethau penodedig yn Neddf 2009 i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

Mae adrannau 48 i 52 o Ddeddf 2009 yn gwneud darpariaeth o ran addysg a hyfforddiant plant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adrannau 49 a 50 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym yn rhannol.

Mae adran 49 o Ddeddf 2009 yn gwrth-droi effaith adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) i blant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol (fel y bydd swyddogaethau awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru, a rhieni o dan Ddeddf 1996 yn gymwys yn gyffredinol tuag at bersonau o'r fath). Deuir ag adran 49 i rym at ddibenion y diwygiadau i Ddeddf 1996 sydd wedi eu cynnwys yn adran 50 o Ddeddf 2009 ac sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn.

Mae adran 50 o Ddeddf 2009 yn mewnosod nifer o adrannau yn Neddf 1996. Deuir â rhai o'r darpariaethau hyn i rym fel a ganlyn. Mae adran 562A(3) yn diffinio person sydd dan gadwad at ddibenion Deddf 1996. Mae adran 562B(1) i (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cartref (sef yr awdurdod lleol lle y mae person yn byw fel arfer) gymryd camau i roi hwb i gyflawni'r potensial i ddysgu sydd gan berson sydd dan gadwad. Mae adran 562C(1) a (2) yn gwneud darpariaeth o ran datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn ystod y cyfnod y caiff plentyn ei roi dan gadwad. Mae adran 562F(1) i (6) ac (11) yn gwneud darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag addysg ac sy'n ymwneud â pherson sydd dan gadwad. Mae adran 562I yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â phersonau sy'n cael eu cadw'n gaeth mewn llety i bobl ieuenctid ac mae adran 562J yn cynnwys diffiniadau.

Mae'r Gorchymyn hefyd hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 51 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 51 o Ddeddf 2009 yn diwygio Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 er mwyn gosod dyletswydd ar dîmau troseddau ieuenctid i roi gwybod i awdurdodau lleol penodol pan fydd person yn cael ei roi dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol, ei drosglwyddo iddo neu ei ryddhau ohono.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 52 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 52 yn mewnosod adran 312A newydd yn Neddf 1996 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan ryddheir rhywun sy'n cael ei gadw ac sydd hefyd yn diwygio adran 328(5) o Ddeddf 1996 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu datganiad pan gaiff plentyn ei ryddhau o fod dan gadwad.