xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
16 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 269(3) ac (8) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
2.—(1) 1 Ebrill 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru—
(a)adran 49 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: cymhwyso darpariaethau) at ddibenion—
(i)adran 50 i'r graddau y dygir hi i rym gan is-baragraff (b); a
(ii)adran 52 o'r Ddeddf;
(b)adran 50 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: darpariaeth bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg 1996—
adran 562A(3);
adran 562B(1) i (3);
adran 562C(1) a (2);
adran 562F(1) i (6) ac (11);
adran 562I; ac
adran 562J;
(c)adran 51 (cadw plentyn neu person ifanc: rhoi gwybod i awdurdodau lleol);
(ch)adran 52 (rhyddhad plentyn neu person ifanc sy'n cael ei gadw sydd ag anghenion addysgol arbennig); a
(d)paragraffau 54 i 56 o Atodlen 6.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.
16 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”), sy'n dwyn darpariaethau penodedig yn Neddf 2009 i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.
Mae adrannau 48 i 52 o Ddeddf 2009 yn gwneud darpariaeth o ran addysg a hyfforddiant plant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adrannau 49 a 50 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym yn rhannol.
Mae adran 49 o Ddeddf 2009 yn gwrth-droi effaith adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) i blant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol (fel y bydd swyddogaethau awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru, a rhieni o dan Ddeddf 1996 yn gymwys yn gyffredinol tuag at bersonau o'r fath). Deuir ag adran 49 i rym at ddibenion y diwygiadau i Ddeddf 1996 sydd wedi eu cynnwys yn adran 50 o Ddeddf 2009 ac sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn.
Mae adran 50 o Ddeddf 2009 yn mewnosod nifer o adrannau yn Neddf 1996. Deuir â rhai o'r darpariaethau hyn i rym fel a ganlyn. Mae adran 562A(3) yn diffinio person sydd dan gadwad at ddibenion Deddf 1996. Mae adran 562B(1) i (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cartref (sef yr awdurdod lleol lle y mae person yn byw fel arfer) gymryd camau i roi hwb i gyflawni'r potensial i ddysgu sydd gan berson sydd dan gadwad. Mae adran 562C(1) a (2) yn gwneud darpariaeth o ran datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn ystod y cyfnod y caiff plentyn ei roi dan gadwad. Mae adran 562F(1) i (6) ac (11) yn gwneud darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag addysg ac sy'n ymwneud â pherson sydd dan gadwad. Mae adran 562I yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â phersonau sy'n cael eu cadw'n gaeth mewn llety i bobl ieuenctid ac mae adran 562J yn cynnwys diffiniadau.
Mae'r Gorchymyn hefyd hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 51 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 51 o Ddeddf 2009 yn diwygio Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 er mwyn gosod dyletswydd ar dîmau troseddau ieuenctid i roi gwybod i awdurdodau lleol penodol pan fydd person yn cael ei roi dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol, ei drosglwyddo iddo neu ei ryddhau ohono.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 52 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 52 yn mewnosod adran 312A newydd yn Neddf 1996 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan ryddheir rhywun sy'n cael ei gadw ac sydd hefyd yn diwygio adran 328(5) o Ddeddf 1996 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu datganiad pan gaiff plentyn ei ryddhau o fod dan gadwad.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr yn unig gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2010/303, O.S. 2011/200.
Gweler hefyd adran 269(1) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Tachwedd 2009 (diwrnod pasio Deddf 2009).
Gweler hefyd adran 269(2) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Ionawr 2010 (ar ddiwedd deufis yn dechrau ar ddyddiad pasio'r Ddeddf).
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
adran 174 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
adran 192 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
adran 205 | 12 Ionawr 2010 (Cy. 292) | O.S. 2009/3341 |
adran 259 | 1 Hydref 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
adran 266 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
Atodlen 12 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
Atodlen 14 | 12 Ionawr 2010 (Cy. 292) | O.S. 2009/3341 |
Atodlen 16 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 yn rhannol ac 1 Hydref 2010 yn rhannol | O.S. 2010/2413 (Cy. 207) |
Mae'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | OS. Rhif |
---|---|---|
adran 1 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 3 i 6 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 13 i 16 | 1 Mawrth 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 17 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 23 i 27 | 30 Medi 2010 | O.S. 2010/2374 |
adrannau 32 i 36 | 1 Awst 2011 (o ran Cymru) a 6 Ebrill 2011 (o ran Lloegr) | O.S. 2011/200 |
adran 37 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 38 | 1 Mawrth 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 40 | 6 Ebrill 2010 (yn rhannol) a 6 Ebrill 2011 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2010/303 |
adrannau 41 i 44 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 46 a 47 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 53 a 54 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 55 a 56 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 57 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 59 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adrannau 60 i 90 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 100 i 104 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 105 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 106 i 111 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 112 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 113 i 124 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 125 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O. S. 2010/303 |
adran 126 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 127 i 144 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 147 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 148 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 149 i 154 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 156 a 157 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 158 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 159 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 160 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 161 i 173 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 174 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 175 i 177 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 178 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/1151 |
adran 179 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 180 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 181 i 191 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 192 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 193 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol ) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 194 | 26 Chwefror 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2010/303 |
adran 195 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 196 a 197 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 202 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) a 28 Chwefror 2011 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/2374 |
adrannau 203 a 204 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 206 i 224 | 19 Ebrill 2010 (yn rhannol) ac 1 Medi 2010 (yn rhannol) | O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151 |
adran 225 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 226 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 | O.S.2009/3317 |
adrannau 227 i 241 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 242 to 245 | 1 Medi 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 249 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 251 i 255 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 256 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 257 a 258 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 261 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 266 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151 |
Atodlen 1 | 6 Ebrill 2010 (yn rhannol) a 6 Ebrill 2011 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2010/303 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010 | O.S. 2009/3317 ac O. S. 2010/303 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
Atodlenni 4 i 7 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
Atodlen 8 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 a 2010/303 |
Atodlenni 9 i 11 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
Atodlen 12 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
Atodlen 13 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
Atodlen 15 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
Atodlen 16 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010, 19 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010 | O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151 |