xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 823 (Cy.122)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Mawrth 2011

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23C(5B) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Yn unol ag adran 104A(3) a (4)(2) o'r Ddeddf honno, cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989.

Y swm perthnasol

3.  £2,000 yw “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 23C(5A) o Ddeddf 1989.

Ystyr “addysg uwch”

4.—(1Mae ystyr “addysg uwch” (“higher education”) wedi ei ragnodi at ddibenion adran 23C(5A) o Ddeddf 1989 i olygu cwrs addysg sydd—

(a)yn un o'r canlynol—

(i)gradd gyntaf;

(ii)cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;

(iii)cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch y Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban;

(iv)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(v)cwrs ar gyfer hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned;

(vi)cwrs (nad yw'n ofynnol fel rheol cael gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol i gael mynediad iddo) i baratoi ar gyfer arholiad proffesiynol ar lefel uwch;

(b)yn un sy'n para am ddwy flynedd academaidd o leiaf (fel cwrs amser-llawn neu fel cwrs rhan-amser sydd wedi ei fynegi fel un sy'n gyfwerth ag amser llawn); ac

(c)wedi ei ddynodi gan neu o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3) ar y dyddiad y mae'r cyn blentyn perthnasol(4) yn dechrau'r cwrs.

(2At ddibenion is-baragraff (vi) mae arholiad ar lefel uwch yn un y mae ei safon yn uwch na'r canlynol—

(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

Darparu ynghylch talu'r swm perthnasol

5.—(1Caiff yr awdurdod lleol(5) dalu'r swm perthnasol i gyn blentyn perthnasol fel cyfandaliad neu drwy randaliadau.

(2Yn achos cyn blentyn perthnasol a ddechreuodd addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011—

(a)os yw'r swm perthnasol i'w dalu fel cyfandaliad, rhaid iddo gael ei dalu erbyn 30 Mehefin 2011; a

(b)os yw'r swm perthnasol i'w dalu drwy randaliadau—

(i)rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu erbyn 30 Mehefin 2011; a

(ii)rhaid i'r rhandaliad terfynol gael ei dalu cyn diwedd y cwrs neu heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl dechrau pedwaredd flwyddyn y cwrs, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(3Yn achos cyn blentyn perthnasol sy'n dechrau addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2011—

(a)os yw'r swm perthnasol i'w dalu fel cyfandaliad, rhaid iddo gael ei dalu erbyn 31 Rhagfyr 2011 neu heb fod yn fwy na thri mis ar ôl dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a

(b)os yw'r swm perthnasol i'w dalu drwy randaliadau—

(i)rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu erbyn 31 Rhagfyr 2011 neu heb fod yn fwy na thri mis ar ôl dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a

(ii)rhaid i'r rhandaliad terfynol gael ei dalu cyn diwedd y cwrs neu heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl dechrau pedwaredd flwyddyn y cwrs, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(4Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch talu'r swm perthnasol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarganfod beth yw dymuniadau a theimladau'r cyn blentyn perthnasol a rhoi ystyriaeth briodol iddynt.

(5Caiff yr awdurdod lleol atal talu unrhyw ran weddilliol o'r swm perthnasol sydd heb ei thalu yn ystod unrhyw gyfnod pan nad yw'r cyn blentyn perthnasol yn dilyn addysg uwch yn unol â'r cynllun llwybr(6) ar ei gyfer.

Adennill y swm perthnasol gan yr awdurdod lleol

6.  Caiff yr awdurdod lleol adennill y cyfan o'r swm perthnasol neu unrhyw ran ohono oddi wrth berson y mae taliad wedi ei wneud iddo os yw camgymeriad wedi ei wneud ynglŷn â chymhwystra'r person hwnnw i gael y taliad.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 23C(5B) o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”). Gan mai dyma'r tro cyntaf y mae'r pwerau yn adran 23C(5B)(b) (sy'n rhagnodi beth yw ystyr “higher education” at ddibenion adran 23C(5A)) wedi eu harfer gan Weinidogion Cymru, mae'r Rheoliadau wedi eu gosod ar ffurf drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad ganddo, yn unol ag adran 104A(3) a (4) o Ddeddf 1989.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi mai £2,000 yw'r swm perthnasol (bwrsari addysg uwch) sy'n daladwy o dan adran 23C(5A) o Ddeddf 1989 gan awdurdod lleol i gyn blentyn perthnasol. Mae bwrsari addysg uwch yn daladwy i gyn blentyn perthnasol sy'n dechrau cwrs addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2010 yn unol â'i gynllun llwybr.

Mae cyn blentyn perthnasol yn berson sy'n 18 oed neu'n hŷn ac a oedd gynt naill ai'n blentyn perthnasol neu'n blentyn cymwys at ddibenion Deddf 1989.

Mae cynllun llwybr yn gynllun sy'n nodi'r cyngor, y cymorth a'r gefnogaeth y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu rhoi i gyn blentyn perthnasol.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi mai ystyr “addysg uwch” yw cwrs addysg uwch sy'n arwain at radd gyntaf neu gymhwyster arall o safon gyfwerth, sy'n para am ddwy flynedd o leiaf (pan fo'n cael ei ddilyn fel cwrs amser-llawn neu gwrs rhan-amser sy'n gyfwerth â'r cwrs amser-llawn) ac sydd wedi ei ddynodi gan neu o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu'r bwrsari addysg uwch fel cyfandaliad neu drwy randaliadau. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu ynghylch y dull talu ar ôl iddo, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarganfod beth yw dymuniadau a theimladau'r cyn blentyn perthnasol a rhoi ystyriaeth briodol iddynt. Os caiff y bwrsari addysg uwch ei dalu fel cyfandaliad, rhaid iddo gael ei dalu gan yr awdurdod lleol i'r cyn blentyn perthnasol yn ystod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs addysg uwch. Os yw'r bwrsari addysg uwch i'w dalu drwy randaliad, rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu yn ystod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs addysg uwch, gan dalu'r rhandaliad terfynol cyn diwedd y cwrs addysg uwch. Fel arall, os yw'r cwrs yn para am 4 blynedd neu fwy, rhaid i'r rhandaliad terfynol gael ei dalu yn ystod 4 wythnos gyntaf pedwaredd flwyddyn y cwrs.

Mae rheoliad 5(5) yn caniatáu i'r awdurdod lleol atal unrhyw elfen o'r bwrsari addysg uwch sydd heb ei thalu yn ystod cyfnodau pan na fydd cyn blentyn perthnasol yn dilyn cwrs addysg uwch yn unol â'i gynllun llwybr.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth i'r awdurdod lleol adennill unrhyw symiau a delir drwy gamgymeriad i unrhyw berson.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1989 p.41. Mewnosodwyd is-adran (5B) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) gan adran 21(2) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“Deddf 2008”) (p.23). Ystyr “prescribed” yw wedi ei ragnodi mewn Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1989 — gweler adran 105 o Ddeddf 1989. Ystyr “appropriate national authority”, mewn perthynas â Chymru, yw Gweinidogion Cymru — gweler adran 30A o Ddeddf 1989. Diwygiwyd adran 104(4) o Ddeddf 1989 gan baragraffau 1 a 25 o Atodlen 3 i Ddeddf 2008.

(2)

Mewnosodwyd adran 104A o Ddeddf 1989 gan adran 39 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 3 iddi. Mae adran 104A(3) a (4) yn darparu na chaniateir i'r rheoliadau cyntaf sydd i'w gwneud drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 23C(5B)(b) gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru oni fydd drafft o'r offeryn statudol wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)

1998 p.30. Adeg gwneud y Rheoliadau hyn y Rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2737) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999 (O.S. 1999/2263).

(4)

Diffinnir “former relevant child” yn adran 23C(1) o Ddeddf 1989. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chyn blentyn perthnasol yr oedd awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano ddiwethaf.

(5)

Y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru a oedd yn gyfrifol ddiwethaf dros gyn blentyn perthnasol yw “yr awdurdod lleol”.

(6)

Mae “pathway plan” wedi ei ddiffinio yn adran 23E o Ddeddf 1989, a fewnosodwyd gan adran 3 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35).