xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 823 (Cy.122)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Mawrth 2011

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23C(5B) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Yn unol ag adran 104A(3) a (4)(2) o'r Ddeddf honno, cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(1)

1989 p.41. Mewnosodwyd is-adran (5B) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) gan adran 21(2) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“Deddf 2008”) (p.23). Ystyr “prescribed” yw wedi ei ragnodi mewn Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1989gweler adran 105 o Ddeddf 1989. Ystyr “appropriate national authority”, mewn perthynas â Chymru, yw Gweinidogion Cymru — gweler adran 30A o Ddeddf 1989. Diwygiwyd adran 104(4) o Ddeddf 1989 gan baragraffau 1 a 25 o Atodlen 3 i Ddeddf 2008.

(2)

Mewnosodwyd adran 104A o Ddeddf 1989 gan adran 39 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 3 iddi. Mae adran 104A(3) a (4) yn darparu na chaniateir i'r rheoliadau cyntaf sydd i'w gwneud drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 23C(5B)(b) gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru oni fydd drafft o'r offeryn statudol wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.