RHAN 4CYMORTH ARIANNOL
PENNOD 4GRANTIAU AT GOSTAU BYW A CHOSTAU ERAILL I FYFYRWYR YNG NGHOLEG EWROP
Grantiau teithio21.
(1)
Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio adref sy'n swm sydd yn hafal I (A − B)
lle—
A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a
B yw £102.
(2)
Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio i Goleg Ewrop o gyfeiriad y myfyriwr yn ystod y tymor.
(3)
Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y dyfernir cymorth ar ei chyfer.