- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
45.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 (o fewn ystyr rheoliad 3(1)), na ffynhonnell golau dwys (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw) mewn ysbyty annibynnol neu at ddibenion ysbyty o'r fath oni fydd yr ysbyty hwnnw wedi sefydlu protocol proffesiynol, a baratowyd gan ymarferydd meddygol neu ddeintydd hyfforddedig a phrofiadol o'r ddisgyblaeth berthnasol, y bwriedir darparu'r driniaeth yn unol ag ef, ac y darperir y driniaeth yn unol â'r protocol hwnnw.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofrestr yn y sefydliad o bob achlysur pan ddefnyddiwyd techneg neu dechnoleg y cyfeirir ati ym mharagraff (1), gan gynnwys yn y gofrestr—
(a)enw'r claf y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg mewn cysylltiad â'i driniaeth;
(b)natur y dechneg neu'r dechnoleg dan sylw a'r dyddiad y'i defnyddiwyd;
(c)enw'r person a'i defnyddiodd; ac
(ch)os nad oedd y person a ddefnyddiodd y dechneg neu dechnoleg yn ymarferydd meddygol, deintydd neu berson cymwys arall, enw a chymwysterau perthnasol yr ymarferydd meddygol neu'r deintydd a baratôdd y protocol proffesiynol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir cynnyrch laser o'r fath na ffynhonnell golau dwys o'r fath yn yr ysbyty annibynnol nac at ei ddibenion, ac eithrio gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol ac wedi dangos dealltwriaeth o'r canlynol—
(a)y dull cywir o ddefnyddio'r cyfarpar dan sylw;
(b)y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys;
(c)ei effeithiau biolegol ac amgylcheddol;
(ch)y rhagofalon sydd i'w cymryd cyn defnyddio ac wrth ddefnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys; a
(d)y camau sydd i'w cymryd os digwydd unrhyw ddamwain, argyfwng, neu ddigwyddiad andwyol arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: