Ffitrwydd y gweithwyr
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol—
(a)cyflogi person o dan gontract cyflogi i weithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(c)caniatáu i unrhyw berson arall (gan gynnwys ymarferydd meddygol sy'n gwneud cais am gael breintiau ymarfer) weithio yn neu ar ran y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth mewn swydd lle y gallai ddod i gysylltiad rheolaidd â chlaf wrth gyflawni ei ddyletswyddau onid yw'r person hwnnw yn ffit i weithio yn neu ar ran y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1) nid yw person yn ffit i weithio yn neu ar ran sefydliad neu at ddibenion asiantaeth oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwnnw;
(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith hwnnw; ac
(ch)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth, lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, neu berson ar ran y person cofrestredig wneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 3 o Atodlen 2, at ddiben asesu addasrwydd person i'r swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig o gyflogaeth a wneir i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth a wneir gyda'r person hwnnw neu mewn perthynas ag ef, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni fydd paragraff (5) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth hyd nes cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson nad yw'n broffesiynolyn gofal iechyd ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn ynghylch pob mater a restrir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2 ynglŷn â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 4 i 8 o Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 o Atodlen 2;
(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)hyd nes y caiff, ac y'i bodlonir gan, unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn, neu at ddibenion y sefydliad neu asiantaeth ac nad yw'n dod o fewn paragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol drwy gydol yr amser pan fo mewn cysylltiad â chleifion.