Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “arweiniad y cleifion” (“patients' guide”) yw'r arweiniad a lunnir yn unol â rheoliad 7;

  • ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth feddygol annibynnol;

  • ystyr “Awdurdod Gwasanaethau Ariannol” (“Financial Services Authority”) yw'r corff a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000(1);

  • mae “breintiau ymarfer” (“practising privileges”), mewn perthynas ag ymarferydd meddygol, yn cyfeirio at roi hawl i berson nas cyflogir mewn ysbyty annibynnol i ymarfer yn yr ysbyty hwnnw;

  • ystyr “bydwraig” (“midwife”) yw bydwraig gofrestredig sydd wedi hysbysu'r awdurdod goruchwyliol lleol o'i bwriad i ymarfer yn unol ag unrhyw reolau a wnaed o dan erthygl 42 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2);

  • ystyr “claf” (“patient”), mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, yw person y mae triniaeth yn cael ei darparu iddo yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth;

  • ystyr “cofnod gofal iechyd” (“health care record”) yw unrhyw gofnod—

    (a)

    a gyfansoddir o wybodaeth am iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol unigolyn, a

    (b)

    sydd wedi ei wneud gan neu ar ran proffesiynolyn iechyd mewn cysylltiad â gofal yr unigolyn hwnnw;

  • ystyr “cofrestr feddygol arbenigol” (“specialist medical register”) yw'r gofrestr o ymarferwyr meddygol arbenigol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol ag adran 34(D) o Ddeddf Meddygaeth 1983(3);

  • ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;

  • ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y sefydliad neu'r asiantaeth;

  • ystyr “darparwr yswiriant” (“insurance provider”) yw—

    (a)

    person a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac sy'n gwerthu yswiriant neu sy'n tanysgrifennu risg yswiriant o'r fath, neu

    (b)

    asiant person o'r fath;

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 6;

  • ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005(4);

  • ystyr “Deddf y GIG” (“the NHS Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5);

  • ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr ddeintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984(6);

  • mae i “dyfais feddygol” yr ystyr a roddir i “medical device” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(7);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “lleoedd cymeradwy” (“approved places”), mewn cysylltiad ag ysbyty annibynnol, yw gwelyau sydd ar gael yn unol ag unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad unrhyw berson mewn perthynas â'r ysbyty annibynnol, i'w ddefnyddio gan glaf yn ystod y nos;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparwr cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y sefydliad neu'r asiantaeth;

  • ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(8) yn gymwys iddo, a rhaid dehongli “proffesiwn gofal iechyd” yn unol â hynny;

  • ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y sefydliad neu'r asiantaeth;

  • ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw ysbyty annibynnol neu glinig annibynnol;

  • ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth yw—

    (a)

    os pennwyd swyddfa o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y lleolir y sefydliad neu asiantaeth ynddi, y swyddfa honno;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa'r awdurdod cofrestru;

  • mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys gofal lliniarol, gwasanaethau nyrsio a gwasanaethau rhestredig o fewn yr ystyr a roddir i “listed services” yn adran 2 o'r Ddeddf;

  • mae “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 10;

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol ag adrannau 41, 42 a 50 o Ddeddf y GIG;

  • ystyr “ymarferydd meddygol” (“medical practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru bennu swyddfa a reolir ganddo fel y swyddfa briodol mewn perthynas â sefydliadau ac asiantaethau a leolir mewn rhan benodol o Gymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw, neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(4Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person pa un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson a gyflogir yn unol â hynny.

Ystyr “ysbyty annibynnol”

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae triniaeth gan ddefnyddio unrhyw un o'r technegau neu'r technolegau canlynol yn rhagnodedig (“prescribed”) at ddibenion adran 2(7)(f) o'r Ddeddf—

(a)cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4, fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Safon Brydeinig EN 60825-1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser)(9);

(b)golau dwys, sef golau anghydlynol band eang a hidlir i gynhyrchu amrediad penodedig o donfeddi, pan ddefnyddir y pelydriad hidledig hwnnw ar y corff gyda'r nod o beri difrod thermol, mecanyddol neu gemegol i ffoliglau blew a meflau ar y croen, tra'n arbed y meinweoedd o amgylch;

(c)enwaedu plant gwrywaidd gan broffesiynolyn gofal iechyd, gan gynnwys gwneud hynny at ddibenion defod grefyddol;

(ch)hemodialysis neu ddialysis peritoneol;

(d)endosgopi;

(dd)therapi hyperbarig, sef gweini ocsigen (pa un ai ar y cyd ag un neu ragor o nwyon eraill ai peidio) i glaf mewn siambr seliedig a wasgeddir yn raddol ag aer cywasgedig, pan gyflawnir y cyfryw therapi gan neu o dan oruchwyliaeth neu gyfarwyddyd uniongyrchol ymarferydd meddygol ac y defnyddir y siambr honno fel arall yn bennaf ar gyfer trin gweithwyr mewn cysylltiad â'r gwaith a gyflawnant; ac

(e)technegau ffrwythloni in vitro, sef gwasanaethau triniaeth y gellir rhoi trwydded ar eu cyfer o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 1990(10).

(2Nid yw “gwasanaethau rhestredig” yn cynnwys triniaeth drwy ddefnyddio'r technegau neu'r technolegau canlynol—

(a)triniaeth i leddfu poen yn y cyhyrau a'r cymalau drwy ddefnyddio lamp triniaeth gwres is-goch;

(b)triniaeth drwy ddefnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B,pan fo'r driniaeth honno yn cael ei chyflawni gan broffesiynolyn gofal iechyd neu o dan oruchwyliaeth proffesiynolyn gofal iechyd;

(c)defnyddio cyfarpar (nad yw'n gyfarpar sy'n dod o dan baragraff (1)(b)) i gael lliw haul artiffisial, sef cyfarpar a gyfansoddir o lamp neu lampau sy'n allyrru pelydrau uwchfioled.

(3At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae sefydliadau o'r disgrifiadau canlynol wedi'u heithrio rhag bod yn ysbytai annibynnol—

(a)sefydliad sy'n ysbyty yn rhinwedd adran 2(3)(a)(i) oherwydd, yn unig, mai darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ar gyfer afiechyd neu anhwylder meddwl neu ofal lliniarol yw ei brif ddiben, ond nad oes ganddo leoedd cymeradwy;

(b)sefydliad sy'n ysbyty i'r lluoedd arfog o fewn yr ystyr a roddir i “service hospital” yn Atodlen 12 o Ddeddf Lluoedd Arfog 2006(11);

(c)sefydliad sydd yn, neu sy'n ffurfio rhan o, garchar, canolfan remánd, sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel o fewn yr ystyron a roddir, yn eu trefn i “prison”, “remand centre”, “young offender institution” neu “secure training centre” yn Neddf Carchardai 1952(12);

(ch)sefydliad (nad yw'n ysbyty'r gwasanaeth iechyd) sydd â'r unig neu'r prif ddiben o ddarparu gwasanaethau meddygol gan ymarferydd neu ymarferwyr cyffredinol o fewn ystyr Rhan IV o Ddeddf y GIG; ac ni fydd sefydliad o'r fath yn ysbyty annibynnol o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau rhestredig i glaf neu gleifion gan y cyfryw ymarferydd neu ymarferwyr cyffredinol;

(d)preswylfa breifat claf neu gleifion lle y darperir triniaeth i'r cyfryw glaf neu gleifion, ond nid i neb arall;

(dd)meysydd chwarae a champfeydd lle mae proffesiynolion gofal iechyd yn darparu triniaeth i bersonau sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon; ac

(e)meddygfa neu ystafell ymgynghori, (nad yw'n rhan o ysbyty), lle mae ymarferydd meddygol yn darparu gwasanaethau meddygol o dan drefniadau, yn unig, a wnaed ar ran y cleifion gan—

(i)eu cyflogwr,

(ii)carchar neu sefydliad arall lle y cedwir y cleifion o dan glo, ac eithrio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(13), neu

(iii)darparwr yswiriant y mae'r cleifion yn ddeiliaid polisi yswiriant gydag ef, ac eithrio polisi yswiriant at yr unig ddiben, neu'r prif ddiben, o ddarparu buddion mewn perthynas â diagnosis neu driniaeth ar gyfer salwch, anabledd neu eiddilwch corfforol neu feddyliol;

(f)sefydliad sy'n ysbyty yn rhinwedd adran 2(7)(a) o'r Ddeddf oherwydd, yn unig, ei fod yn darparu—

(i)llawdriniaeth yr ewinedd,

(ii)gweithdrefnau gwely'r ewin, neu

(iii)ciwretio, serio neu rew-serio dafadennau, ferwcau neu friwiau eraill y croen,

ar unrhyw rannau o'r troed, ac yn defnyddio anesthesia lleol yn ystod y gweithdrefnau hynny; ac

(ff)sefydliad sy'n ysbyty yn rhinwedd adran 2(7)(a) o'r Ddeddf oherwydd, yn unig, bod ymarferydd meddygol yn darparu ciwretio, serio neu rew-serio dafadennau, ferwcau neu friwiau eraill y croen ac yn defnyddio anesthesia lleol yn ystod y weithdrefn honno.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “anesthesia lleol” (“local anaesthesia”) yw unrhyw anesthesia ac eithrio anesthesia cyffredinol, sbinol neu epidwrol, ac nid yw'n cynnwys rhoi ataliad nerf parthol.

(5Mae'r diffiniad o “listed services” yn is-adran (7) o adran 2 o'r Ddeddf yn cael effaith fel petai'r geiriau “intravenously administered” wedi eu mewnosod ar ôl y gair “or” ym mharagraff (a) o'r diffiniad hwnnw.

Ystyr “clinig annibynnol”

4.—(1At ddibenion y Ddeddf, rhagnodir mai meddygfa neu ystafell ymgynghori lle y mae ymarferydd meddygol, nad yw'n darparu unrhyw wasanaethau yn unol â Deddf y GIG yn y sefydliad hwnnw, yn darparu gwasanaethau meddygol o unrhyw fath (gan gynnwys triniaeth seiciatrig) ac eithrio o dan drefniadau a wnaed ar ran y cleifion gan eu cyflogwr yw clinig annibynnol

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os darperir y gwasanaethau meddygol o dan drefniadau, yn unig, a wnaed ar ran y cleifion gan—

(i)carchar neu sefydliad arall lle y cedwir y cleifion o dan glo, ac eithrio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, neu

(ii)darparwr yswiriant y mae'r cleifion yn ddeiliaid polisi yswiriant gydag ef, ac eithrio polisi yswiriant at yr unig ddiben, neu'r prif ddiben, o ddarparu buddion mewn perthynas â diagnosis neu driniaeth ar gyfer salwch, anabledd neu eiddilwch corfforol neu feddyliol.

(3Pan fo dau neu fwy o ymarferwyr meddygol, yn defnyddio gwahanol rannau o'r un fangre fel meddygfa neu ystafell ymgynghori, neu'n defnyddio'r un feddygfa neu ystafell ymgynghori ar adegau gwahanol, ystyrir bod pob un o'r ymarferwyr meddygol yn cynnal clinig annibynnol ar wahân, onid ydynt yn yr un practis gyda'i gilydd.

Eithrio ymgymeriad o'r diffiniad o asiantaeth feddygol annibynnol

5.  At ddibenion y Ddeddf, rhaid eithrio unrhyw ymgymeriad a gyfansoddir, yn unig, o ddarparu gwasanaethau meddygol gan ymarferydd meddygol o dan drefniadau a wnaed ar ran y cleifion gan—

(a)eu cyflogwr;

(b)carchar neu sefydliad arall lle y cedwir y cleifion o dan glo, ac eithrio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; neu

(c)darparwr yswiriant y mae'r cleifion yn ddeiliaid polisi yswiriant gydag ef, ac eithrio polisi yswiriant at yr unig ddiben, neu'r prif ddiben, o ddarparu buddion mewn perthynas â diagnosis neu driniaeth ar gyfer salwch, anabledd neu eiddilwch corfforol neu feddyliol,

rhag bod yn asiantaeth.

Datganiad o ddiben

6.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio, mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth, ddatganiad ar bapur (sef datganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) y mae'n rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru a rhaid iddo drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol gan bob claf a chan unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg, neu'r asiantaeth yn cael ei rhedeg, mewn modd sy'n gyson â datganiad o ddiben y sefydliad neu'r asiantaeth.

(4Ni oes dim sydd ym mharagraff (3), rheoliad 15(1) na reoliad 26(1) a (2) sy'n ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi bod y person cofrestredig yn torri neu'n peidio â chydymffurfio ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall o'r Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym ar y pryd mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.

Arweiniad y cleifion

7.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi arweiniad ysgrifenedig i'r sefydliad neu'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “arweiniad y cleifion”) ac mae'n rhaid i'r arweiniad gynnwys—

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)yr amodau a'r telerau mewn perthynas â'r gwasanaethau sydd i'w darparu i'r cleifion, gan gynnwys yr amodau a'r telerau ynghylch y swm sydd i'w dalu gan gleifion am bob agwedd ar eu triniaeth a'r dull o dalu'r taliadau;

(c)ffurf safonol o gontract ar gyfer darparu'r gwasanaethau a chyfleusterau gan y darparwr cofrestredig i gleifion;

(ch)crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 24;

(d)pan fo ar gael, crynodeb o safbwyntiau'r cleifion ac eraill, a gafwyd yn unol â rheoliad 19(2)(d);

(dd)cyfeiriad a rhif teleffon swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; ac

(e)yr adroddiad arolygu diweddaraf a baratowyd gan yr awdurdod cofrestru neu wybodaeth ynglŷn â sut y gellir cael copi o'r adroddiad hwnnw.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o arweiniad cyntaf y cleifion i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, a rhaid iddo sicrhau bod copi o'r fersiwn gyfredol o arweiniad y cleifion yn cael ei ddarparu i bob claf ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf.

Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y cleifion

8.  Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r datganiad o ddiben a chynnwys arweiniad y cleifion dan arolwg, a phan fo'n briodol, eu diwygio; a

(b)hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath, o leiaf 28 diwrnod cyn y bwriedir i'r diwygiad ddod i rym.

Polisïau a gweithdrefnau

9.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiadau ysgrifenedig o'r polisïau sydd i'w defnyddio a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn mewn neu at ddibenion sefydliad mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir isod, ac at ddibenion asiantaeth, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn is-baragraffau (b), (ch), (dd), (e), (f), (ff), (i) a (j)—

(a)y trefniadau ar gyfer cymryd i mewn neu dderbyn cleifion, eu trosglwyddo i ysbyty, gan gynnwys i ysbyty gwasanaeth iechyd, pan fo angen ac, yn achos sefydliad sydd â lleoedd cymeradwy, eu rhyddhau;

(b)y trefniadau ar gyfer asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion;

(c)sicrhau bod mangre'r sefydliad bob amser yn addas at y diben y'i defnyddir ar ei chyfer;

(ch)monitro ansawdd ac addasrwydd y cyfleusterau a'r cyfarpar, gan gynnwys cynnal y cyfryw gyfarpar;

(d)adnabod, asesu a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r sefydliad, i gyflogeion, cleifion, ymwelwyr a'r rhai sy'n gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad;

(dd)creu, rheoli, trin a storio cofnodion a gwybodaeth arall;

(e)darparu gwybodaeth i gleifion ac eraill;

(f)recriwtio, sefydlu a chadw cyflogeion, a'u hamodau gwaith;

(ff)sicrhau bod staff yn cael eu recriwtio mewn ffordd ddiogel, gan gynnwys gwiriadau sy'n briodol i'r gwaith y mae'r staff i ymgymryd ag ef;

(g)os cynhelir ymchwil mewn sefydliad, sicrhau y gwneir hynny gyda chydsyniad unrhyw glaf neu gleifion a gynhwysir yn yr ymchwil, bod yr ymchwil yn briodol ar gyfer y sefydliad dan sylw, ac y'i cynhelir yn unol â'r canllawiau cyhoeddedig cyfredol ac awdurdodol ar gynnal prosiectau ymchwil;

(ng)y trefniadau ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch y staff a'r cleifion;

(h)cadw eiddo a meddiannau cleifion yn ddiogel yn y sefydliad, mewn achosion pan gymerir y cyfryw eiddo neu feddiannau oddi ar y claf, oherwydd y gallant fod yn risg o niwed i'r claf;

(i)archebu, cofnodi, gweini a chyflenwi meddyginiaethau i gleifion;

(l)y trefniadau mewn perthynas â rheoli heintiau gan gynnwys hylendid dwylo, trin a gwaredu gwastraff clinigol yn ddiogel, trefniadau cadw tŷ a glanhau, a hyfforddiant a chyngor perthnasol;

(ll)y trefniadau ar gyfer cynnal archwiliadau clinigol; ac

(m)rhoi breintiau ymarfer i ymarferwyr meddygol a'u tynnu'n ôl mewn sefydliadau lle y rhoddir neu y caniateir rhoi breintiau o'r fath.

(2Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sy'n pennu—

(a)sut y rheolir ymddygiad claf sy'n ymddwyn yn gythryblus;

(b)y mesurau atal a ganiateir, ac o dan ba amgylchiadau y caniateir eu defnyddio;

(c)gofynion bod cyflogeion yn adrodd am achosion difrifol o drais neu hunan-niweidio, gan gynnwys canllawiau ar sut i gategoreiddio'r digwyddiadau hynny; ac

(ch)y weithdrefn ar gyfer adolygu digwyddiadau o'r fath a phenderfynu ar y camau sydd i'w cymryd wedi hynny.

(3Rhaid paratoi'r datganiadau a'r polisïau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) gan roi sylw i faint y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y cleifion.

(4Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu datganiadau ysgrifenedig o'r polisïau sydd i'w defnyddio a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn, mewn neu at ddibenion sefydliad neu asiantaeth, a fydd yn sicrhau—

(a)yr asesir galluedd pob claf i gydsynio i driniaeth;

(b)yn achos claf sydd â galluedd, y sicrheir ei ganiatâd priodol a gwybodus, ac mewn ysgrifen pan fo'n briodol, i driniaeth cyn rhoi unrhyw driniaeth arfaethedig;

(c)yn achos claf nad oes ganddo alluedd, y cydymffurfir â gofynion Deddf 2005 cyn rhoi unrhyw driniaeth arfaethedig iddo;

(ch)y cymerir i ystyriaeth y canllawiau cenedlaethol a'r canllawiau arferion gorau; a

(d)y datgelir gwybodaeth am iechyd a thriniaeth y claf i'r personau hynny, yn unig, sydd arnynt angen i fod yn ymwybodol o'r wybodaeth honno er mwyn trin y claf yn effeithiol neu leihau unrhyw risg y gallai'r claf niweidio ei hunan neu berson arall, neu at y diben o weinyddu'r sefydliad yn briodol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig adolygu gweithrediad polisïau a gweithdrefnau a weithredir o dan—

(a)y rheoliad hwn;

(b)rheoliad 24; ac

(c)i'r graddau y maent yn gymwys i'r person cofrestredig, rheoliadau 38, 44 (7) a 48;

a hynny fesul cyfnodau o ddim mwy na thair blynedd a rhaid iddo, pan fo'n briodol, adolygu a gweithredu'r polisïau a'r gweithdrefnau hynny.

(6Rhaid i'r person cofrestredig gadw copïau o'r holl bolisïau a gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn, gan gynnwys fersiynau blaenorol o bolisïau a gweithdrefnau a adolygwyd yn unol â pharagraff (5), am gyfnod o ddim llai na thair blynedd o ddyddiad creu neu ddiwygio'r polisi neu weithdrefn.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o'r holl ddatganiadau ysgrifenedig a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod cofrestru.

RHAN IIPersonau Cofrestredig

Ffitrwydd y darparwr cofrestredig

10.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'r person hwnnw—

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff, ac—

(i)y corff hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn yn y corff (sef yr unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”), a'r unigolyn hwnnw'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall y corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; a

(ii)yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw—

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol, ar gael ynglŷn â'r unigolyn mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.

(4Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth—

(a)os yw'r person wedi'i farnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau, ac nad yw'r gorchymyn methdalwr wedi'i ddirymu na'i ddiddymu neu fod cyfnod o foratoriwm yn gymwys i'r person hwnnw o dan orchymyn rhyddhau o ddyled; neu

(b)os yw'r person wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr y person hwnnw ac nad ydyw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hynny.

Penodi rheolwr

11.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli y sefydliad neu asiantaeth—

(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad neu asiantaeth; a

(b)os yw'r darparwr cofrestredig—

(i)yn gorff;

(ii)yn berson nad yw'n ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth; neu

(iii)yn berson nad yw'r sefydliad neu asiantaeth o dan ei ofal yn llawnamser o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu i'r sefydliad neu'r asiantaeth fod o dan ei ofal felly.

(2Os yw'r darparwr cofrestredig yn penodi person i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth, rhaid i'r darparwr cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol—

(a)enw'r person a benodwyd felly; a

(b)y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.

(3Os y darparwr cofrestredig sydd i reoli'r sefydliad neu asiantaeth rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r dyddiad y mae'r cyfryw reolaeth i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr

12.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth—

(a)onid yw'n berson addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(b)o ystyried maint y sefydliad neu asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion—

(i)onid oes gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth; a

(ii)onid yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; ac

(c)onid oes gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.

(3Pan fo person yn rheoli mwy nag un sefydliad neu asiantaeth, rhaid iddo dreulio amser digonol ym mhob sefydliad neu asiantaeth i sicrhau y rheolir pob sefydliad neu asiantaeth yn effeithiol.

Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol

13.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu reoli'r sefydliad neu asiantaeth, yn ôl fel y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol, o ystyried maint y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.

(2Os yw'r darparwr cofrestredig—

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o bryd i'w gilydd â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i redeg y sefydliad neu asiantaeth.

(3Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad neu asiantaeth ymgymryd, o bryd i'w gilydd, â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth.

Hysbysu ynghylch tramgwyddau

14.—(1Os caiff y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol ei gollfarnu am unrhyw dramgwydd troseddol, pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid i'r person a gollfarnwyd hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r canlynol—

(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn;

(b)y tramgwydd y collfarnwyd y person o'i herwydd; ac

(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.

(2Os cyhuddir y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol o unrhyw dramgwydd y ceir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (Amddiffyn Plant)(14) rhaid i'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r tramgwydd y'i cyhuddwyd ohono, a dyddiad a lleoliad y cyhuddiad.

RHAN IIIRhedeg Sefydliadau ac Asiantaethau Gofal Iechyd

Pennod 1Ansawdd y Gwasanaeth a Ddarperir

Ansawdd y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir

15.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 6(4), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu unrhyw driniaethau a gwasanaethau eraill i gleifion yn unol â'r datganiad o ddiben a rhaid iddo sicrhau bod unrhyw driniaethau a gwasanaethau eraill a ddarperir i bob claf—

(a)yn bodloni anghenion unigol y claf;

(b)yn sicrhau lles a diogelwch y claf;

(c)yn seiliedig ar dystiolaeth; ac

(ch)y'u darperir (pan fo angen) gan ddefnyddio cyfarpar priodol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir yn neu at ddibenion y sefydliad, neu at ddibenion yr asiantaeth, yn ddiogel, ac mewn cyflwr da ac yn addas at y dibenion y'i defnyddir ar eu cyfer.

(3Pan ddefnyddir dyfeisiau meddygol ailddefnyddiadwy mewn sefydliad neu at ddibenion asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y dilynir gweithdrefnau priodol ar gyfer glanhau, diheintio, archwilio, pacio, sterileiddio, cludo a storio dyfeisiau o'r fath.

(4Rhaid i'r gweithdrefnau a ddilynir yn unol â pharagraff (3) fod yn rhai sy'n sicrhau y caiff dyfeisiau meddygol ailddefnyddiadwy eu trin yn ddiogel a'u dadhalogi'n effeithiol cyn eu hailddefnyddio.

(5Rhaid i'r person cofrestredig amddiffyn cleifion rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â ffyrdd anniogel o ddefnyddio a rheoli meddyginiaethau, drwy—

(a)gwneud trefniadau priodol ar gyfer caffael, cofnodi, trin, defnyddio, cadw'n ddiogel, dosbarthu, gweini a gwaredu meddyginiaethau yn ddiogel a ddefnyddir yn neu at ddibenion y sefydliad neu'r asiantaeth; a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod cofrestru neu gan gorff arbenigol priodol ynglŷn â thrin a defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel.

(6Os defnyddir gwaed a chynhyrchion gwaed, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod proses fonitro (haemo-wyliadwriaeth) wedi ei sefydlu i sicrhau diogelwch trallwyso gwaed.

(7Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, sicrhau y diogelir—

(a)cleifion; a

(b)eraill a allai fod mewn perygl o ddod i gysylltiad â haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd o ganlyniad i weithio mewn neu at ddibenion sefydliad neu asiantaeth,

rhag y risgiau canfyddadwy o gael haint o'r fath, drwy'r dulliau a bennir ym mharagraff (8).

(8Y dulliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)gweithredu'n effeithiol systemau a gynlluniwyd i asesu'r risg o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac i'w hatal, eu canfod a'u rheoli;

(b)pan fo'n gymwys, darparu triniaeth briodol i'r rhai yr effeithir arnynt gan haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd; ac

(c)cynnal safonau priodol o lanweithdra a hylendid mewn perthynas ag—

(i)mangreoedd a feddiennir at y diben o gynnal y sefydliad neu'r asiantaeth;

(ii)cyfarpar a dyfeisiau meddygol ailddefnyddiadwy a ddefnyddir at y diben o gynnal y sefydliad neu'r asiantaeth; a

(iii)deunyddiau sydd i'w defnyddio wrth drin defnyddwyr y gwasanaeth, os oes risg y gallai deunyddiau o'r fath gael eu halogi gan haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

(9Os yw sefydliad yn darparu bwyd a diod i gleifion fel cydran o'r gofal a roddir i'r cleifion, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod anghenion y cleifion o ran maeth a'u hydradiad yn cael eu hasesu a'u dogfennu, wrth eu derbyn ac ar adegau rheolaidd wedi hynny;

(b)y darperir bwyd a hydradu sy'n bodloni anghenion cleifion unigol o ran maeth a hydradiad.

(10Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i unrhyw fwletinau sy'n cynghori ynghylch y math o driniaeth a ddarperir gan y sefydliad neu'r asiantaeth, ac i'r wybodaeth am ddiogelwch cleifion a gyhoeddir gan gyrff rheoleiddio priodol, cyrff proffesiynol priodol neu gyrff arbenigol statudol priodol.

Diogelu cleifion rhag eu cam-drin

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau y diogelir cleifion rhag y risg o'u cam-drin, drwy—

(a)cymryd camau rhesymol i ganfod y posibilrwydd o gam-drin a'i atal cyn iddo ddigwydd; a

(b)ymateb yn briodol i unrhyw honiad o gam-drin.

(2Os defnyddir unrhyw ffurf o reolaeth neu ataliad mewn sefydliad neu at ddibenion asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig fod wedi sefydlu trefniadau addas i ddiogelu cleifion rhag y risg y gallai'r cyfryw reolaeth neu ataliad fod—

(a)yn anghyfreithlon; neu

(b)yn ormodol rywfodd arall.

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod cofrestru neu gorff arbenigol priodol mewn perthynas ag—

(a)amddiffyn plant ac oedolion hyglwyf yn gyffredinol; a

(b)yn benodol, defnydd priodol o ddulliau rheoli neu atal.

(4At ddibenion paragraff (1), ystyr “cam-drin” (“abuse”), mewn perthynas â chlaf, yw—

(a)cam-drin yn rhywiol;

(b)camdriniaeth gorfforol neu seicolegol;

(c)lladrata, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo; neu

(ch)esgeulustod ac anweithiau sy'n achosi niwed neu'n peri risg o niwed i'r claf.

Galluedd cleifion

17.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y mae'n ymarferol, ac os nad oes galluedd gan y claf, yn unol ag egwyddorion Deddf 2005, alluogi pob claf i wneud penderfyniadau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar y modd y gofelir am y claf ac am ei les.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y galluogir i gleifion reoli eu harian eu hunain ac eithrio pan nad yw'r claf yn dymuno gwneud hynny neu pan nad oes ganddo'r galluedd i wneud hynny, ac mewn achos o'r fath rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y delir ac y cofnodir arian y claf yn briodol, ac y dyroddir derbynebion fel y bo'n briodol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y mae'n ymarferol, ac os nad oes galluedd gan y cleifion, yn unol ag egwyddorion Deddf 2005, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau pob un o'r cleifion wrth benderfynu ar y modd y gofelir amdanynt ac y darperir gwasanaethau iddynt.

Preifatrwydd, urddas a pherthnasau

18.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau y caiff y sefydliad ei redeg, neu'r asiantaeth ei rhedeg—

(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y cleifion; a

(b)gan roi sylw priodol i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y cleifion, ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.

(2Rhaid i'r person cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un) ill dau gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff y sefydliad ei redeg, neu'r asiantaeth ei rhedeg ar sail perthnasau personol a phroffesiynol da—

(a)rhwng y naill a'r llall; a

(b)rhwng pob un ohonynt a'r cleifion a'r staff.

Asesu a monitro ansawdd y ddarpariaeth o wasanaethau, gan gynnwys datganiadau blynyddol

19.—(1Rhaid i'r person cofrestredig ddiogelu cleifion, ac eraill a allai fod yn wynebu risg, rhag y risgiau o gael gofal a thriniaeth amhriodol neu anniogel, drwy weithredu'n effeithiol systemau a gynlluniwyd i alluogi'r person cofrestredig i—

(a)asesu a monitro'n rheolaidd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir wrth redeg y sefydliad neu asiantaeth, gyferbyn â'r gofynion a bennir yn y Rheoliadau hyn; a

(b)canfod, asesu a rheoli risgiau mewn cysylltiad ag iechyd, lles a diogelwch cleifion ac eraill.

(2At ddibenion paragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig—

(a)pan fo'n briodol, cael cyngor proffesiynol perthnasol;

(b)rhoi sylw i—

(i)y cwynion a'r sylwadau a wneir a'r safbwyntiau a fynegir (gan gynnwys y disgrifiadau o'u profiadau o ofal a thriniaeth) gan gleifion a rhai sy'n gweithredu ar eu rhan, yn unol ag is-baragraff (d) a rheoliad 24;

(ii)unrhyw ymchwiliad a gyflawnir gan y person cofrestredig mewn perthynas ag ymddygiad person a gyflogir at y diben o redeg y sefydliad neu'r asiantaeth;

(iii)yr wybodaeth a gynhwysir yn y cofnodion y cyfeirir atynt yn rheoliad 23;

(iv)cyngor proffesiynol ac arbenigol priodol (gan gynnwys unrhyw gyngor a geir yn unol ag is-baragraff (a));

(v)adroddiadau a baratoir gan yr awdurdod cofrestru o bryd i'w gilydd yn unol ag adran 32(5) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(c)pan fo angen, gwneud newidiadau yn y driniaeth neu'r gofal a ddarperir, er mwyn adlewyrchu gwybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol y byddai person cofrestredig yn ymwybodol ohoni, mewn perthynas ag—

(i)dadansoddi digwyddiadau a achosodd, neu a oedd â'r potensial i achosi, niwed i glaf; a

(ii)casgliadau'r adolygiadau lleol a chenedlaethol o'r gwasanaeth, archwiliadau clinigol a phrosiectau ymchwil a ymgymerir gan gyrff arbenigol priodol;

(ch)sefydlu mecanweithiau i sicrhau y gwneir y penderfyniadau ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal a thriniaeth i gleifion ar y lefel briodol, a chan berson priodol; a

(d)holi'n rheolaidd ynghylch safbwyntiau (gan gynnwys disgrifiadau o'u profiadau o ofal a thriniaeth) cleifion, personau sy'n gweithredu ar eu rhan, personau a gyflogir at ddibenion y sefydliad neu asiantaeth ac unrhyw ymarferydd meddygol sydd â breintiau ymarfer, i alluogi'r person cofrestredig i ffurfio barn wybodus ynglŷn â safon y gofal a thriniaeth a ddarperir i'r cleifion.

(3Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig anfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru asesiad blynyddol ysgrifenedig (y cyfeirir ato fel y “datganiad blynyddol”) a fydd yn nodi sut, ac i ba raddau, ym marn y person cofrestredig, y cydymffurfir â gofynion paragraff (1) mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth, ynghyd ag unrhyw gynlluniau sydd gan y person cofrestredig ar gyfer gwella safon y gwasanaethau a ddarperir i gleifion, gyda golwg ar sicrhau eu hiechyd a'u lles.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw'r datganiad blynyddol yn gamarweiniol neu'n anghywir.

(5Rhaid i'r person cofrestredig gyflenwi'r datganiad blynyddol i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fewn 28 diwrnod ar ôl cael cais o dan baragraff (3).

Staffio

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, gan ystyried natur y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y cleifion—

(a)sicrhau bod personau â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas bob amser yn gweithio yn, neu at ddibenion y sefydliad neu, yn ôl fel y digwydd, at ddibenion yr asiantaeth, a bod eu niferoedd yn briodol ar gyfer iechyd a lles y cleifion;

(b)sicrhau na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth yn rhwystro cleifion rhag cael parhad gofal o'r fath sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth—

(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiad priodol;

(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'r person yn ei gyflawni; ac

(c)yn cael ei ddarparu â disgrifiad swydd sy'n amlinellu cyfrifoldebau'r person.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth ac unrhyw ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer, yn cael eu gwerthuso yn rheolaidd ac yn briodol, a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd—

(a)ar ymarfer clinigol proffesiynolyn gofal iechyd; neu

(b)ar berfformiad aelod o'r staff nad yw'n broffesiynolyn gofal iechyd,

y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y person cofrestredig ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn cael eu goruchwylio'n briodol tra bônt yn cyflawni eu swyddogaethau, er mwyn sicrhau na pheryglir iechyd a lles y cleifion.

Ffitrwydd y gweithwyr

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogi i weithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall (gan gynnwys ymarferydd meddygol sy'n gwneud cais am gael breintiau ymarfer) weithio yn neu ar ran y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth mewn swydd lle y gallai ddod i gysylltiad rheolaidd â chlaf wrth gyflawni ei ddyletswyddau onid yw'r person hwnnw yn ffit i weithio yn neu ar ran y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth.

(2At ddibenion paragraff (1) nid yw person yn ffit i weithio yn neu ar ran sefydliad neu at ddibenion asiantaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwnnw;

(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith hwnnw; ac

(ch)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth, lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, neu berson ar ran y person cofrestredig wneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 3 o Atodlen 2, at ddiben asesu addasrwydd person i'r swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1).

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod unrhyw gynnig o gyflogaeth a wneir i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth a wneir gyda'r person hwnnw neu mewn perthynas ag ef, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni fydd paragraff (5) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth hyd nes cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.

(5Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson nad yw'n broffesiynolyn gofal iechyd ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn ynghylch pob mater a restrir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2 ynglŷn â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 4 i 8 o Atodlen 2 yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 o Atodlen 2;

(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

(ch)hyd nes y caiff, ac y'i bodlonir gan, unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn, neu at ddibenion y sefydliad neu asiantaeth ac nad yw'n dod o fewn paragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol drwy gydol yr amser pan fo mewn cysylltiad â chleifion.

Canllawiau ar gyfer proffesiynolion gofal iechyd

22.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw god moeseg neu god ymarfer proffesiynol, a baratoir gan gorff sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau o broffesiwn gofal iechyd, ar gael yn y sefydliad neu'r asiantaeth i aelodau'r proffesiwn gofal iechyd dan sylw.

Cofnodion

23.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, ac eithrio mewn achosion pan fo rheoliad 43(5) yn gymwys—

(a)bod cofnod gofal iechyd cynhwysfawr yn cael ei gadw, ar bapur neu mewn ffurf electronig, mewn perthynas â phob claf, a'i fod yn cynnwys—

(i)nodyn cyfoes o bob triniaeth a ddarperir i'r claf;

(ii)hanes meddygol y claf a phob nodyn arall a baratoir gan broffesiynolyn gofal iechyd ynghylch achos y claf; a

(b)y delir gafael ar y cofnod am gyfnod na fydd yn llai na'r cyfnod a bennir yn Rhan I o Atodlen 3 mewn perthynas â'r math o glaf sydd dan sylw, neu, os gall rhagor nag un cyfnod o'r fath fod yn gymwys, yr hwyaf ohonynt.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod cofnod gofal iechyd person sydd ar hyn o bryd yn glaf yn cael ei gadw mewn lle diogel ym mangre'r sefydliad neu'r asiantaeth; a

(b)bod cofnod gofal iechyd person nad yw ar hyn o bryd yn glaf yn cael ei storio'n ddiogel (pa un ai yn y sefydliad neu'r asiantaeth neu mewn man arall) a bod modd dod o hyd iddo pe bai angen.

(3Yn ychwanegol at y cofnodion gofal iechyd a gedwir yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cedwir, ar bapur neu mewn ffurf electronig, y cofnodion a bennir yn Rhan II o Atodlen 3 ac—

(a)eu bod yn cael eu diweddaru;

(b)eu bod ar gael bob amser yn y sefydliad neu'r asiantaeth i'w harchwilio gan unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod cofrestru i fynd i mewn i'r sefydliad i'w archwilio neu i'r asiantaeth i'w harchwilio; ac

(c)y delir gafael arnynt am gyfnod o ddim llai na thair blynedd, sy'n cychwyn ar ddyddiad y cofnod olaf.

(4Os bydd sefydliad neu asiantaeth yn cau, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraffau (1) a (3) yn cael eu storio'n ddiogel mewn man arall a rhaid iddo drefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod cofrestru os bydd yr awdurdod yn gofyn amdanynt.

Cwynion

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan glaf neu berson sy'n gweithredu ar ran claf.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau yr ymchwilir yn llawn i unrhyw gŵyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno.

(3Os gofynnir amdano, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno—

(a)i bob claf;

(b)i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf; ac

(c)i unrhyw berson sy'n ystyried dod yn glaf.

(4Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; a

(b)y weithdrefn (os oes un) yr hysbyswyd y person cofrestredig ohoni gan yr awdurdod cofrestru, ar gyfer cwyno wrth yr awdurdod cofrestru ynghylch y sefydliad neu'r asiantaeth.

(5Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny, gan gynnwys pa un a oes angen gweithredu ai peidio i wella ansawdd y driniaeth neu'r gwasanaethau, a bydd gofynion rheoliad 23(3)(b) ac (c) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

(6Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copïau i'r awdurdod cofrestru o'r cofnodion a gedwir o dan baragraff (5), os gofynnir amdanynt gan yr awdurdod.

Ymchwil

25.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)cyn ymgymryd, mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad, ag unrhyw ymchwil sy'n ymwneud â chleifion, gwybodaeth am gleifion, neu feinweoedd dynol, bod cynnig ymchwil yn cael ei baratoi ac y caiff ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Moeseg Ymchwil priodol; a

(b)bod pob prosiect ymchwil o'r fath yn cynnwys camau digonol i ddiogelu cleifion a chyflogeion.

(2At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr “y Pwyllgor Moeseg Ymchwil priodol” (“the appropriate Research Ethics Committee”) yw pwyllgor moeseg ymchwil a sefydlir yn unol â chanllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan yr awdurdod cofrestru neu gorff arbenigol priodol.

Pennod 2Mangreoedd

Ffitrwydd y fangre

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre at ddibenion sefydliad neu asiantaeth oni fydd y fangre honno mewn lleoliad, ac o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at y diben o gyflawni'r nodau ac amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y fangre'n darparu amgylchedd glân, diogel a diddos yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r arferion gorau cyfredol;

(b)bod y fangre o adeiladwaith cadarn ac y'i cedwir mewn cyflwr da yn allanol ac yn fewnol;

(c)bod maint a chynllun y sefydliad yn addas at y dibenion y maent i'w defnyddio ar eu cyfer a'u bod wedi'u cyfarparu a'u dodrefnu'n addas;

(ch)os ymgymerir â gweithdrefnau llawfeddygol, os defnyddir systemau cynnal bywyd, neu os darperir gwasanaethau obstetrig a gwasanaethau meddygol mewn cysylltiad â geni plant yn y sefydliad, y darperir pa bynnag gyflenwad trydan y byddai ei angen i ddiogelu bywydau'r cleifion.

(3Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r canlynol i gyflogeion ac i ymarferwyr meddygol sydd â breintiau ymarfer—

(a)cyfleusterau a llety addas, ac eithrio llety cysgu, gan gynnwys—

(i)cyfleusterau ar gyfer newid; a

(ii)cyfleusterau storio; a

(b)pan fo angen darparu llety o'r fath ar gyflogeion mewn cysylltiad â'u gwaith, llety cysgu.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 5, rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cymryd rhagofalon digonol yn erbyn y risg o dân, gan gynnwys darparu a chynnal cyfarpar digonol i atal a chanfod tân;

(b)darparu moddion dianc digonol, i'w defnyddio pe digwyddai tân;

(c)gwneud trefniadau i bersonau a gyflogir yn y sefydliad, ac i ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt, gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(ch)sicrhau, drwy gyfrwng driliau ac ymarferion tân a gynhelir o bryd i'w gilydd fel y bo'n addas, fod y personau a gyflogir yn y sefydliad, ac i'r graddau y bo'n ymarferol, y cleifion a'r ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt, yn gyfarwydd â'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân;

(d)adolygu, fesul cyfnod o ddim mwy na deuddeng mis, y rhagofalon tân, addasrwydd y cyfarpar tân a'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân; ac

(dd)paratoi asesiad risg ysgrifenedig ar gyfer diogelwch tân.

(5Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(15) yn gymwys i'r fangre—

(a)nid yw paragraff (4) yn gymwys; a

(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cydymffurfir, mewn perthynas â'r fangre honno, â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac unrhyw reoliadau a wnaed odano ac eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion).

Ffitrwydd y fangre – anabledd dysgu

27.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 53—

(a)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff ysbyty annibynnol sy'n darparu neu'n bwriadu darparu llety dros nos —

(i)am gyfnod o 12 mis yn olynol neu gyfnod hwy i gleifion sydd wedi eu diagnosio ag anableddau dysgu ynghyd ag i gleifion ag afiechyd meddwl; neu

(ii)am gyfnod o 12 mis yn olynol neu gyfnod hwy i glaf sydd wedi ei ddiagnosio fel un sydd ag anabledd dysgu yn ogystal ag afiechyd meddwl,

gynnwys mwy na 15 o leoedd cymeradwy.

(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff ysbyty annibynnol sy'n darparu, neu'n bwriadu darparu, llety dros nos i glaf sydd wedi ei ddiagnosio ag anableddau dysgu nad yw'n dod o fewn is-baragraff (1)(a), am 12 mis yn olynol neu fwy, gynnwys mwy na 10 lle cymeradwy.

(c)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo'n rhesymol ymarferol, y darperir y lleoedd cymeradwy y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) mewn dwy neu ragor o unedau o'r ysbyty annibynnol.

Pennod 3Rheolaeth

Ymweliadau gan y darparwr cofrestredig â sefydliadau

28.—(1Os yw'r darparwr cofrestredig yn unigolyn, nad yw'n rheoli'r sefydliad, rhaid i'r unigolyn hwnnw ymweld â mangre'r sefydliad yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os yw'r darparwr cofrestredig yn gorff, rhaid i un o'r canlynol ymweld â'r sefydliad yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff ac sy'n addas i ymweld â 'r sefydliad; neu

(c)un o gyflogeion y corff a chanddo gymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol at y diben hwnnw ac nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y sefydliad.

(3Rhaid gwneud yr ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf unwaith bob chwe mis, a cheir eu gwneud yn ddirybudd.

(4Rhaid i'r person sy'n ymgymryd ag ymweliad—

(a)cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat (ar y teleffon, os oes angen), y cyfryw rai o'r cleifion a chynrychiolwyr y cleifion a'r cyfryw gyflogeion yr ymddengys yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn am safon y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad;

(b)archwilio'r fangre a chofnodion o unrhyw gwynion; ac

(c)paratoi adroddiad ysgrifenedig ar y modd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg.

(5Rhaid i'r darparwr cofrestredig ddarparu copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei baratoi o dan baragraff (4)(c) i—

(a)yr awdurdod cofrestru;

(b)y rheolwr cofrestredig; ac

(c)yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.

Sefyllfa ariannol

29.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig redeg y sefydliad neu'r asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y sefydliad neu'r asiantaeth yn hyfyw yn ariannol at y diben o gyrraedd y nodau a'r amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, os gofynnir iddo gan yr awdurdod cofrestru, ddarparu pa bynnag wybodaeth a dogfennau i'r awdurdod cofrestru ag a fydd yn ofynnol gan yr awdurdod cofrestru at y diben o ystyried hyfywedd ariannol y sefydliad neu'r asiantaeth, gan gynnwys—

(a)cyfrifon blynyddol yr awdurdod neu'r asiantaeth, a ardystiwyd gan gyfrifydd; neu

(b)cyfrifon blynyddol y corff sy'n ddarparwr cofrestredig y sefydliad neu'r asiantaeth, wedi eu hardystio gan gyfrifydd, ynghyd â chyfrifon mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth ei hunan.

(3Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu hefyd i'r awdurdod cofrestru ba bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan yr awdurdod cofrestru er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y sefydliad neu'r asiantaeth, gan gynnwys—

(a)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn ynghylch statws ariannol y darparwr cofrestredig;

(b)gwybodaeth am y modd yr ariennir y sefydliad neu'r asiantaeth ac am ei adnoddau ariannol, neu ei hadnoddau ariannol;

(c)os yw'r darparwr cofrestredig yn gwmni, gwybodaeth am unrhyw rai o'i gwmnïau cysylltiedig; ac

(ch)tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparwr cofrestredig mewn perthynas ag atebolrwydd y gellid ei achosi iddo mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth ynglŷn â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

(4Yn y rheoliad hwn, mae un cwmni yn gysylltiedig â chwmni arall os rheolir un ohonynt gan y llall, neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Pennod 4Hysbysiadau sydd i'w rhoi i'r awdurdod cofrestru

Hysbysu am farwolaeth neu absenoldeb diawdurdod claf a gedwir yn gaeth neu sy'n agored i'w gaethiwo o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

30.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ddi-oed ynghylch marwolaeth neu absenoldeb diawdurdod claf sy'n agored i'w gaethiwo gan y person cofrestredig—

(a)o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”); neu

(b)yn unol â gorchymyn neu gyfarwyddyd a wneir o dan ddeddfiad arall (sy'n gymwys o ran Cymru), a'r caethiwo hwnnw'n cael effaith fel pe bai'r gorchymyn neu'r cyfarwyddyd wedi ei wneud yn unol â darpariaethau Deddf 1983.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)mae cyfeiriadau at bersonau sy'n “agored i'w caethiwo” (“liable to be detained”) yn cynnwys claf cymunedol a adalwyd i ysbyty yn unol ag adran 17E o Ddeddf 1983, ond nid ydynt yn cynnwys claf a ryddhawyd yn amodol ac nas adalwyd i ysbyty yn unol ag adran 42, 73 neu 74 o Ddeddf 1983;

(b)mae i “claf cymunedol” yr ystyr a roddir i “community patient” yn adran 17A o Ddeddf 1983;

(c)mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn Rhan 2 o'r Ddeddf honno; ac

(ch)ystyr “absenoldeb diawdurdod” (“unauthorised absence”) yw absenoldeb diawdurdod o ysbyty.

Hysbysu am ddigwyddiadau

31.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru—

(a)am farwolaeth claf—

(i)mewn sefydliad;

(ii)yn ystod triniaeth a ddarparwyd mewn neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth; neu

(iii)o ganlyniad i driniaeth a ddarparwyd mewn neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth;

ac am ddyddiad, amser, achos (os yw'n hysbys) ac amgylchiadau marwolaeth y claf;

(b)am unrhyw anaf difrifol i glaf;

(c)am achos sy'n digwydd mewn sefydliad o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol a gyflogir yn y sefydliad, yn ddigon difrifol i roi hysbysiad yn ei gylch;

(ch)unrhyw honiad o gamymddwyn sy'n arwain at niwed gwirioneddol neu niwed posibl i glaf, gan y person cofrestredig, unrhyw berson a gyflogir yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth, neu unrhyw ymarferydd meddygol sydd â breintiau ymarfer;

(d)unrhyw gais am awdurdodiad safonol a wneir gan y person cofrestredig i gorff goruchwylio yn unol â Rhan 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, gan gynnwys canlyniad cais o'r fath;

(dd)unrhyw gais a wneir i lys ynglŷn ag amddifadu claf o'i ryddid.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gorff goruchwylio yn gyfeiriadau at “supervisory body” fel y'i diffinnir yn Atodlen A1 i Ddeddf 2005(16) ac mae i “awdurdodiad safonol” yr ystyr a roddir i “standard authorisation” yn Rhan 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005.

(3Rhaid rhoi'r hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o 24 awr sy'n dechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddir hysbysiad ar lafar, rhaid ei gadarnhau mewn ysgrifen o fewn 72 awr ar ôl yr hysbysiad llafar.

(4Os—

(a)yw'r person cofrestredig yn cael gwybodaeth am farwolaeth claf y terfynwyd ei beichiogrwydd mewn ysbyty annibynnol yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaw i ben ar y dyddiad y ceir yr wybodaeth; a

(b)os oes rheswm gan y person cofrestredig i gredu y gallai fod marwolaeth y claf yn gysylltiedig â therfynu'r beichiogrwydd, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr wybodaeth.

Hysbysu ynghylch absenoldeb person cofrestredig

32.—(1Os yw—

(a)darparwr; cofrestredig sy'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod yn absennol o'r sefydliad neu asiantaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen o'r absenoldeb.

(2Ac eithrio mewn achos o argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach nag un mis cyn dechrau'r absenoldeb arfaethedig, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru a rhaid i'r hysbysiad nodi, mewn perthynas â'r absenoldeb—

(a)ei hyd neu'i hyd disgwyliedig;

(b)y rheswm drosto;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y sefydliad neu'r asiantaeth;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am y sefydliad neu'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a

(d)y trefniadau sydd wedi, neu y bwriedir, eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys pa ddyddiad y bwriedir gwneud y penodiad hwnnw.

(3Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan nodi'r materion a bennir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os yw—

(a)darparwr cofrestredig sy'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r sefydliad neu'r asiantaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu ragor, ac os na hysbyswyd swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o'r absenoldeb rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi–oed i'r swyddfa honno gan nodi'r materion a bennir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o ddychweliad person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) i'w waith, ddim hwyrach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad dychweliad y person hwnnw.

Hysbysu ynghylch newidiadau

33.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os digwydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol neu os bwriedir i unrhyw un ohonynt ddigwydd—

(a)person ac eithrio'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(b)person yn peidio â rhedeg neu reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(c)pan fo'r person cofrestredig yn unigolyn, yr unigolyn hwnnw yn newid ei enw;

(ch)pan fo'r darparwr cofrestredig yn gorff—

(i)newid enw neu gyfeiriad y corff;

(ii)newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff;

(d)yr unigolyn cyfrifol yn newid ei enw;

(dd)enwi rhywun arall yn unigolyn cyfrifol;

(e)pan fo'r darparwr cofrestredig yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad, neu wneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr;

(f)pan fo'r darparwr cofrestredig yn gwmni neu'n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro; neu

(ff)newid neu ehangu mangre'r sefydliad yn sylweddol, neu gaffael mangre ychwanegol, y bwriedir ei defnyddio at ddibenion y sefydliad.

Penodi datodwyr etc

34.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o benodiad y person, gan nodi'r rhesymau dros ei benodi;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal amser–llawn o ddydd i ddydd o'r sefydliad neu'r asiantaeth mewn unrhyw achos pan nad yw'r ddyletswydd o dan reoliad 11(1) yn cael ei chyflawni; ac

(c)cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad y penodir y person, hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fwriadau'r person ynglŷn â pharhau yn y dyfodol i weithredu'r sefydliad neu'r asiantaeth y'i penodwyd mewn perthynas ag ef neu hi.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodwyd—

(a)yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo corff sy'n ddarparwr cofrestredig sefydliad neu asiantaeth;

(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro cwmni sy'n ddarparwr cofrestredig sefydliad neu asiantaeth;

(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr cofrestredig sefydliad neu asiantaeth.

Marwolaeth person cofrestredig

35.—(1Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth ac os bydd farw person cofrestredig, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o'r farwolaeth, mewn ysgrifen yn ddi-oed.

(2Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, ac os bydd farw'r person hwnnw, rhaid i gynrychiolwyr personol y person hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen—

(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a

(b)o fewn 28 diwrnod, o'u bwriadau ynglŷn â rhedeg y sefydliad neu'r asiantaeth yn y dyfodol.

(3Caiff cynrychiolwyr personol darparwr cofrestredig a fu farw redeg y sefydliad neu'r asiantaeth heb gael eu cofrestru mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth—

(a)am gyfnod na fydd yn hwy nag 28 diwrnod; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach y caiff yr awdurdod cofrestru ei benderfynu yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff yr awdurdod cofrestru estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) am ba bynnag gyfnod pellach, na fydd yn hwy na 6 mis, a benderfynir gan yr awdurdod cofrestru, a rhaid i'r awdurdod cofrestru hysbysu'r cynrychiolwyr personol o unrhyw benderfyniad o'r fath, mewn ysgrifen.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o'r sefydliad neu'r asiantaeth o ddydd i ddydd yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y sefydliad neu'r asiantaeth yn unol â pharagraff (3), a hwythau heb eu cofrestru mewn perthynas â'r sefydliad neu'r asiantaeth.

(6Mae darpariaethau rheoliad 12 yn gymwys i reolwr a benodir yn unol â pharagraff (5).

RHAN IVGofynion Ychwanegol sy'n Gymwys i Ysbytai Annibynnol

Pennod 1Gwasanaethau Patholeg, Dadebru a Thrin Plant mewn Ysbytai Annibynnol

Cymhwyso rheoliadau 37 i 39

36.—(1Mae rheoliadau 37 i 39 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol—

(a)y rhai a ddiffinnir yn adran 2(3)(a)(i) o'r Ddeddf ac eithrio sefydliadau sydd wedi'u heithrio gan reoliad 3(3); a

(b)y rhai lle mae triniaeth feddygol, gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig, yn cael ei darparu o dan anesthesia neu dawelydd.

(2Mae rheoliad 37 yn gymwys hefyd i unrhyw sefydliad sy'n darparu gwasanaethau patholeg.

Gwasanaethau patholeg

37.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod ystod ddigonol o wasanaethau patholeg ar gael i fodloni anghenion yr ysbyty;

(b)y darperir y gwasanaethau hynny yn unol â safon briodol;

(c)y gwneir trefniadau priodol ar gyfer casglu sbesimenau patholeg, ac ar gyfer eu cludo (os darperir gwasanaethau patholeg y tu allan i'r ysbyty); ac

(ch)bod modd bob amser adnabod y person y cymerwyd sbesimen ohono, ac adnabod y sbesimen.

Dadebru

38.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiad ysgrifenedig o'r polisïau sydd i'w cymhwyso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn yr ysbyty mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu'r datganiad hwnnw bob blwyddyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau a roddir ar waith yn unol â pharagraff (1)—

(a)yn rhoi ystyriaeth briodol i hawl pob claf sydd â'r galluedd i wneud hynny i roi neu wrthod rhoi cydsyniad i driniaeth;

(b)yn rhoi ystyriaeth briodol i benderfyniadau dilys a chymwys a wneir ymlaen llaw gan gleifion o dan Ddeddf 2005;

(c)ar gael, os gofynnir am eu gweld, i bob claf ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf; ac

(ch)yn cael eu cyfathrebu i, a'u deall gan, bob cyflogai a phob ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer a allai fod yn gysylltiedig â phenderfyniadau ynghylch dadebru claf.

Trin plant

39.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty—

(a)y trinnir y plentyn mewn llety ar wahân i'r llety y trinnir cleifion sy'n oedolion ynddo;

(b)y bodlonir yr anghenion meddygol, corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol penodol a'r anghenion penodol o ran goruchwylio sy'n deillio o oedran y plentyn;

(c)y darperir y driniaeth i'r plentyn gan bersonau sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol ar gyfer trin plant;

(ch)yr hysbysir rhieni'r plentyn yn llawn ynghylch cyflwr y plentyn ac, i'r graddau y bo'n ymarferol, yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â phob agwedd ar y driniaeth a roddir i'r plentyn, ac eithrio pan fo'r plentyn ei hunan yn gymwys i roi cydsyniad i driniaeth ac nad yw'n dymuno i neb hysbysu nac ymgynghori â'i rieni felly.

Pennod 2Ysbytai Annibynnol Lle y Darperir Gwasanaethau Rhestredig Penodol

Gweithdrefnau llawfeddygol

40.—(1Pan ddarperir triniaeth feddygol (gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig) o dan anesthesia neu dawelydd mewn ysbyty annibynnol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob theatr llawdriniaethau wedi ei chynllunio, ei chyfarparu a'i chynnal hyd at safon sy'n briodol i'r dibenion y bwriedir ei defnyddio ar eu cyfer;

(b)y cyflawnir pob llawdriniaeth gan, neu o dan gyfarwyddyd, ymarferydd meddygol sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas;

(c)bod nifer priodol o gyflogeion sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas yn bresennol yn ystod pob gweithdrefn lawdriniaethol; ac

(ch)bod y claf yn cael triniaeth briodol—

(i)cyn rhoi'r anesthetig neu'r tawelydd;

(ii)tra'n cael y weithdrefn lawfeddygol;

(iii)tra'n ymadfer ar ôl anesthesia cyffredinol; a

(iv)yn y cyfnod wedi'r llawdriniaeth.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, cyn bod claf sydd â'r galluedd i wneud hynny yn cydsynio i unrhyw lawdriniaeth a gynigir gan yr ysbyty annibynnol, bod y claf wedi cael gwybodaeth eglur a chynhwysfawr ynglŷn â'r weithdrefn ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â hi.

(3Yn achos claf nad oes ganddo alluedd i gydsynio i lawdriniaeth, rhaid, os oes modd, darparu'r wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (2) i'w gynrychiolwyr.

(4Yn achos claf nad oes ganddo alluedd i gydsynio i lawdriniaeth, rhaid i'r person cofrestredig roi sylw priodol i unrhyw benderfyniadau dilys a chymwys a wnaed ymlaen llaw gan y claf o dan Ddeddf 2005.

Triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol

41.  Pan fo'r driniaeth a ddarperir mewn ysbyty annibynnol yn cynnwys triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod cymwysterau, sgiliau a phrofiad addas gan y deintydd ac unrhyw gyflogeion sy'n ei gynorthwyo i ddelio ag unrhyw argyfwng a all ddigwydd yn ystod neu o ganlyniad i'r anesthesia cyffredinol neu'r driniaeth; a

(b)bod cyfleusterau, cyffuriau a chyfarpar digonol ar gael i ddelio ag unrhyw argyfwng o'r fath.

Gwasanaethau obstetrig – staffio

42.—(1Mae'r rheoliad hwn a rheoliad 43 yn gymwys i ysbyty annibynnol lle darperir gwasanaethau obstetrig ac, mewn perthynas â geni plant, gwasanaethau meddygol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig benodi Pennaeth Gwasanaethau Bydwreigiaeth i fod yn gyfrifol am reoli'r ddarpariaeth o wasanaethau bydwreigiaeth yn yr ysbyty annibynnol, ac yn ogystal, ac eithrio mewn achosion lle y darperir y gwasanaethau obstetrig yn yr ysbyty gan fydwragedd yn bennaf, Pennaeth Gwasanaethau Obstetrig y cynhwysir ei enw yn y gofrestr feddygol arbenigol mewn perthynas ag arbenigedd mewn obstetreg, i fod yn gyfrifol am reoli'r ddarpariaeth o wasanaethau obstetrig.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y proffesiynolyn gofal iechyd sy'n bennaf cyfrifol am ofalu am fenywod beichiog a chynorthwyo adeg geni plant yn fydwraig, yn ymarferydd cyffredinol sydd â chymwysterau priodol, neu'n ymarferydd meddygol y cynhwysir ei enw yn y gofrestr feddygol arbenigol mewn perthynas ag arbenigedd mewn obstetreg.

(4Os darperir y gwasanaethau obstetrig mewn ysbyty annibynnol yn bennaf gan fydwragedd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwasanaethau ymarferydd meddygol sy'n gymwys i ddelio ag argyfyngau obstetrig ar gael bob amser.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod proffesiynolyn gofal iechyd sy'n gymwys i ymgymryd â dadebru baban newydd anedig ar gael yn yr ysbyty bob amser a bod sgiliau'r person hwnnw yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac, os oes angen, eu diweddaru.

Gwasanaethau obstetrig – gofynion pellach

43.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)y rhoddir gwybod am farwolaeth unrhyw glaf mewn ysbyty annibynnol, sy'n digwydd yn ystod, neu o ganlyniad i, feichiogrwydd neu eni plentyn; a

(b)y rhoddir gwybod am unrhyw farw-enedigaeth neu farwolaeth plentyn newydd-anedig mewn ysbyty annibynnol,

i unrhyw berson sy'n cynnal ymchwiliad i farwolaethau o'r fath ar ran Gweinidogion Cymru.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau ar gael o fewn yr ysbyty i ddarparu triniaeth ddigonol i gleifion yr oedd angen ymyrraeth lawfeddygol arnynt, neu y defnyddiwyd gefeiliau arnynt wrth eni eu plentyn, a sicrhau y gofelir am gleifion o'r fath gan fydwraig a chanddi brofiad priodol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trosglwyddo claf a'i phlentyn newydd-anedig, ar unwaith pan fo angen, i gyfleusterau gofal critigol o fewn yr ysbyty neu mewn man arall yn y cyffiniau agos.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trin, ac, os oes angen, trosglwyddo claf sy'n sâl iawn neu blentyn newydd-anedig i gyfleuster gofal arbenigol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod mamolaeth yn cael ei gynnal ar gyfer pob claf sy'n cael gwasanaethau obstetrig a phob plentyn a enir yn yr ysbyty, ac—

(i)y cynhwysir ynddo'r manylion a bennir yn rheoliad 23(1)(a) ac yn Rhannau I a II o Atodlen 4; a

(ii)y delir gafael ar y cofnod mamolaeth am gyfnod o ddim llai na 25 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad y cofnod diwethaf; a bydd gofynion rheoliad 23(2) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

(6Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “marw-enedigaeth” yr ystyr a roddir i “stillbirth” yn Neddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953(17);

  • ystyr “marwolaeth plentyn newydd-anedig” (“neonatal death”) yw marwolaeth plentyn cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda dyddiad geni'r plentyn.

Terfynu beichiogrwydd

44.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysbyty annibynnol lle y terfynir beichiogrwydd.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na dderbynnir unrhyw glaf i ysbyty i derfynu beichiogrwydd, ac na fynnir ac na dderbynnir ffi oddi wrth glaf mewn perthynas â therfynu, oni dderbyniwyd dwy dystysgrif barn mewn perthynas â'r claf.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y tystysgrifau barn sy'n ofynnol o dan baragraff (2) yn cael eu cynnwys gyda chofnod meddygol y claf, o fewn ystyr rheoliad 23.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na therfynir unrhyw feichiogrwydd ar ôl 20fed wythnos y beichiogiad, oni bai—

(a)bod y claf yn cael ei drin gan bersonau a chanddynt gymwysterau, sgiliau a phrofiad addas i derfynu beichiogrwydd yn hwyr; a

(b)bod gweithdrefnau priodol wedi'u sefydlu i ddelio ag unrhyw argyfwng meddygol sy'n digwydd yn ystod y terfynu neu o ganlyniad iddo.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw feichiogrwydd ei derfynu ar ôl 24ain wythnos y beichiogiad.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cedwir cofrestr yn yr ysbyty o'r cleifion sy'n terfynu eu beichiogrwydd, ac—

(i)bod y gofrestr honno ar wahân i'r gofrestr o gleifion sydd i'w chadw o dan baragraff 1 o Atodlen 3;

(ii)y cwblheir y gofrestr mewn perthynas â phob claf ar yr adeg y cyflawnir y terfyniad; a

(iii)y delir gafael ar y gofrestr am gyfnod o ddim llai na thair blynedd, sy'n cychwyn ar ddyddiad y cofnod olaf.

(7Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu gweithdrefnau priodol yn yr ysbyty er mwyn sicrhau bod meinweoedd ffetysol yn cael eu trin â pharch.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “tystysgrif barn” (“certificate of opinion”) yw tystysgrif sy'n ofynnol gan reoliadau a wnaed o dan adran 2(1) o Ddeddf Erthylu 1967(18).

Defnyddio technegau neu dechnolegau penodol

45.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 (o fewn ystyr rheoliad 3(1)), na ffynhonnell golau dwys (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw) mewn ysbyty annibynnol neu at ddibenion ysbyty o'r fath oni fydd yr ysbyty hwnnw wedi sefydlu protocol proffesiynol, a baratowyd gan ymarferydd meddygol neu ddeintydd hyfforddedig a phrofiadol o'r ddisgyblaeth berthnasol, y bwriedir darparu'r driniaeth yn unol ag ef, ac y darperir y driniaeth yn unol â'r protocol hwnnw.

(2Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofrestr yn y sefydliad o bob achlysur pan ddefnyddiwyd techneg neu dechnoleg y cyfeirir ati ym mharagraff (1), gan gynnwys yn y gofrestr—

(a)enw'r claf y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg mewn cysylltiad â'i driniaeth;

(b)natur y dechneg neu'r dechnoleg dan sylw a'r dyddiad y'i defnyddiwyd;

(c)enw'r person a'i defnyddiodd; ac

(ch)os nad oedd y person a ddefnyddiodd y dechneg neu dechnoleg yn ymarferydd meddygol, deintydd neu berson cymwys arall, enw a chymwysterau perthnasol yr ymarferydd meddygol neu'r deintydd a baratôdd y protocol proffesiynol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir cynnyrch laser o'r fath na ffynhonnell golau dwys o'r fath yn yr ysbyty annibynnol nac at ei ddibenion, ac eithrio gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol ac wedi dangos dealltwriaeth o'r canlynol—

(a)y dull cywir o ddefnyddio'r cyfarpar dan sylw;

(b)y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys;

(c)ei effeithiau biolegol ac amgylcheddol;

(ch)y rhagofalon sydd i'w cymryd cyn defnyddio ac wrth ddefnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys; a

(d)y camau sydd i'w cymryd os digwydd unrhyw ddamwain, argyfwng, neu ddigwyddiad andwyol arall.

Pennod 3Ysbytai Iechyd Meddwl

Cymhwyso rheoliadau 47 i 50

46.  Mae rheoliadau 47 i 50 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol—

(a)y rhai y mae darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ar gyfer anhwylder meddwl yn brif ddiben iddynt; a

(b)y rhai lle y darperir triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bersonau sy'n agored i'w caethiwo o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Diogelwch cleifion ac eraill

47.—(1Rhaid i'r datganiad o bolisïau a gweithdrefnau sydd i'w baratoi a'i weithredu gan y person cofrestredig yn unol â rheoliad 9(1)(d) gynnwys polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â'r canlynol—

(a)asesu tueddiad claf tuag at drais a hunan-niwed;

(b)darparu gwybodaeth i gyflogeion ynghylch canlyniad asesiad o'r fath;

(c)asesu effaith cynllun safle mangre'r ysbyty, ei bolisïau a'i weithdrefnau, ar y risg y bydd claf yn niweidio ei hunan neu berson arall; ac

(ch)darparu hyfforddiant i alluogi cyflogeion i leihau'r risg y bydd claf yn niweidio ei hun neu berson arall.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu protocol ar hunanladdiad yn yr ysbyty sy'n ei gwneud yn ofynnol—

(a)cynnal archwiliad cynhwysfawr o gyflwr meddwl pob claf;

(b)gwerthuso hanes anhwylder meddwl y claf, gan gynnwys adnabod tueddiadau hunanladdol;

(c)gwneud asesiad o dueddiad y claf i hunanladdiad; ac

(ch)pan fo angen, cymryd camau priodol i leihau'r risg y gallai'r claf ladd ei hunan.

Ymwelwyr

48.  Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig yn yr ysbyty mewn perthynas â chleifion yn derbyn ymwelwyr.

Cofnodion iechyd meddwl

49.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y delir gafael ar unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu gwneud o dan Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008(19), ac sy'n ymwneud â chadw claf yn gaeth neu roi triniaeth i glaf mewn ysbyty annibynnol, am gyfnod o ddim llai na phum mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r person y mae'r cofnodion yn ymwneud ag ef yn peidio â bod yn glaf yn yr ysbyty.

RHAN VGofynion Ychwanegol sy'n Gymwys i Glinigau Annibynnol

Clinigau annibynnol

50.  Pan fo clinig annibynnol yn darparu gofal cynenedigol i gleifion, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y proffesiynolyn gofal iechyd sy'n bennaf cyfrifol am ddarparu'r gofal hwnnw yn fydwraig, yn ymarferydd cyffredinol â chymwysterau priodol, neu'n ymarferydd meddygol â chymhwyster arbenigol mewn obstetreg.

RHAN VIAmrywiol

Cydymffurfio â rheoliadau

51.  Os oes rhagor nag un person cofrestredig mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, ac os gwneir unrhyw beth y mae'n ofynnol i'r person cofrestredig ei wneud o dan y rheoliadau hyn gan un o'r personau cofrestredig, ni fydd yn ofynnol i'r peth hwnnw gael ei wneud gan unrhyw un o'r personau cofrestredig eraill.

Tramgwyddau

52.—(1Bydd torri, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 6 i 17, 18(1), 19 i 35, 37 i 45 a 47 i 50 yn dramgwydd.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 23 wedi i'r person hwnnw beidio â bod yn berson cofrestredig.

Darpariaethau trosiannol

53.—(1Hyd nes bo digwyddiad cyfamserol yn digwydd, ni fydd rheoliad 27 yn gymwys i berson cofrestredig mewn cysylltiad ag ysbyty annibynnol nac i geisydd am gofrestriad fel rheolwr, os caniatawyd cofrestriad y darparwr cofrestredig cyn 5 Ebrill 2011.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cyfamserol” (“intervening event”) yw—

(a)cais a ddaw i law'r awdurdod cofrestru o dan adran 12 o'r Ddeddf oddi wrth ddarparwr newydd yr ysbyty annibynnol; neu

(b)cais a ddaw i law'r awdurdod cofrestru o dan adran 15(1)(a) o'r Ddeddf oddi wrth berson cofrestredig, pan fyddai effaith caniatáu'r cais fel a bennir ym mharagraff (3).

(3Bydd cynnydd yn nifer y lleoedd cymeradwy y gall person cofrestredig eu darparu i gleifion sydd ag anabledd dysgu a ddiagnoswyd.

(4Yn achos digwyddiad cyfamserol o dan baragraff (2)(b), ni fydd rheoliad 52 yn gymwys i reoliad 27 hyd nes mae'r cais yn cael ei benderfynu'n derfynol neu y'i tynnir yn ôl.

(5At ddibenion paragraff (4) ystyr “cael ei benderfynu'n derfynol” (“finally disposed of”) yw caniatáu'r cais o dan adran 15(4) neu, os gwrthodir y cais, y dyddiad ymhen 28 diwrnod ar ôl gwrthod y cais, ac os gwneir apêl, y dyddiad y penderfynir yr apêl yn derfynol neu y rhoddir y gorau iddi.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys i bersonau a gofrestrwyd mewn perthynas â sefydliad cyn 5 Ebrill 2011, pan fo—

(a)rheoliad 3 yn gymwys mewn modd sy'n peri nad yw'r ysbyty annibynnol bellach yn ysbyty annibynnol; a

(b)rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw.

(7Caiff personau y mae paragraff (6) yn gymwys iddynt—

(a)parhau i redeg neu reoli'r sefydliad heb fod wedi eu cofrestru o dan y Ddeddf—

(i)yn ystod cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar 5 Ebrill 2011; a

(ii)os gwneir cais am gofrestriad o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes mae'r cais yn cael ei benderfynu'n derfynol neu y'i tynnir yn ôl;

(b)eu heithrio rhag talu ffi cofrestru o dan reoliad 3 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2011(20).

(8At ddibenion paragraff (7)(a)(ii) ystyr “cael ei benderfynu'n derfynol” (“finally disposed of”) yw'r dyddiad ymhen 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac os gwneir apêl, y dyddiad y penderfynir yr apêl yn derfynol neu y rhoddir y gorau iddi.

Dirymu ac arbedion

54.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir drwy hyn Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(21) (“Rheoliadau 2002”).

(2Mae rheoliad 3(4) o Reoliadau 2002 yn parhau i fod ag effaith.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2011