Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 710 (Cy.111)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

7 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(aa)(ii) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011 ac mae'n dod i rym ar 6 Ebrill 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

  • mae i “Credyd Treth Plant” a “Credyd Treth Gwaith” yr ystyr a roddir i (“Child Tax Credit”) a (“Working Tax Credit”) yn Neddf Credydau Treth 2002(3);

  • ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003(4);

  • ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(5).

Diwygio

3.—(1Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2003.

(2Yn lle erthygl 3 o Orchymyn 2003, rhodder—

Credydau treth rhagnodedig

3.  Rhagnodir Credyd Treth Plant at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996 –

(a)pan fo hawl gan riant P i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith; a

(b)pan fo rhiant P yn cael Credyd Treth Plant yn rhinwedd dyfarniad ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190..

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996, pan fo gan riant P hawl i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith a'i fod yn cael Credyd Treth Plant ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na £16,190, bod gan P hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.

(1)

1996 p.56. Rhoddwyd adran 512ZB, ynghyd ag adran 512, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, a 512ZA yn lle adran 512 gan adran 201(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac mewnosodwyd is-adran (4)(aa) ac (c) o adran 512ZB gan adran 26(1)(c) ac (e), yn eu trefn, o Ddeddf Tlodi Plant 2010 (p.9). Am ystyr “prescribed” gweler adran 512(6).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources