2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “Credyd Treth Plant” a “Credyd Treth Gwaith” yr ystyr a roddir i (“Child Tax Credit”) a (“Working Tax Credit”) yn Neddf Credydau Treth 2002(1);
ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003(2);
ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(3).
O.S. 2002/2006, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/732, 2003/2815, 2004/2663, 2006/745, 2006/766, 2007/824, 2007/1305 a 2008/2169